Cynorthwyo’r arweinydd merlota yn ystod taith ferlota
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo'r arweinydd merlota yn ystod taith ferlota i fonitro diogelwch ac esmwythdra cleientiaid a cheffylau, yn ogystal â chyfathrebu gyda phawb ar y daith ferlota.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- cynorthwyo'r arweinydd merlota yn ystod taith ferlota trwy fonitro marchogion, ceffylau ac amodau yn barhaus, yn unol â'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt
- hysbysu'r arweinydd merlota ynghylch sefyllfaoedd peryglus yn brydlon yn unol â'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt
- rhoi gwybodaeth i gleientiaid ar adegau a chyfnodau priodol yn cynnwys gwybodaeth am sefyllfaoedd peryglus, pwyntiau o ddiddordeb lleol a chynnydd y daith ferlota
- gweithredu cyfarwyddiadau'r arweinydd merlota bob amser
- dilyn gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar gyfer marchogaeth ar y ffordd bob amser, yn unol â deddfwriaeth marchogaeth a diogelwch ar y ffordd
- rhoi ceffyl ar dennyn tra'n cael ei farchogaeth a'i farchogaeth a'i arwain yn ôl y cyfarwyddyd
- defnyddio technegau diogel a rheolaeth tra'n marchogaeth ac arwain
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- yr amodau diogel ar gyfer merlota a sut i fonitro amodau
- goblygiadau cyfuniadau ceffylau/marchogion anghywir
- sut mae'r tywydd yn effeithio ar dir gwahanol
- y rhesymau dros fonitro aelodau'r daith ferlota yn barhaus
- sut i adnabod cleientiaid mewn trallod
- sut i adnabod problemau gyda cheffylau
- sut mae Rheolau'r Ffordd Fawr a chodau cefn gwlad/mynediad eraill yn berthnasol i ferlotwyr
- dulliau cyfathrebu'n effeithiol ar y daith ferlota
- sut a phryd y dylid rhoi gwybodaeth am bwyntiau o ddiddordeb, cynnydd a rheolaeth wrth farchogaeth
- sut i roi ceffyl ar dennyn tra'n cael ei farchogaeth a sut i farchogaeth ac arwain
- sut y gallai cyflyrau meddygol cleient effeithio ar ei allu ef neu ei gallu hi ar y daith ferlota
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Rhoi'r wybodaeth ganlynol i gleientiaid:
sefyllfaoed a allai fod yn beryglus
pwyntiau o ddiddordeb lleol
- cynnydd y daith ferlota
Monitro ac adrodd ar yr amodau canlynol:
- y tywydd
- tir
- iechyd y cleient
- agwedd y cleient
- lles y ceffyl
- unrhyw beryglon i'r marchogion a'r ceffylau
Cynnal y gweithgareddau canlynol:
- rhoi ceffyl ar ffrwyn arwain tra'n cael ei farchogaeth
- arwain ceffyl yn gywir ac yn ddiogel, gan leihau unrhyw beryglon