Cynnal gweithdrefnau cyn ac ar ôl teithiau merlota
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal gweithdrefnau cyn ac ar ôl teithiau merlota. Gallai'r gweithdrefnau hyn gynnwys helpu cleientiaid i fynd ar gefn ac oddi ar gefn ceffylau, addasu harneisiau fel y bo angen a gofalu ar ôl y ceffylau ar ôl dychwelyd o'r daith. Bydd yn ofynnol i chi gynorthwyo cleientiaid sydd yn ddechreuwyr ac yn farchogion galluog.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cynnal asesiadau cyn y daith ferlota, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- gwirio addasrwydd harneisiau a harneisio'r ceffylau yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cynorthwyo marchogion i fynd ar gefn ac oddi ar gefn ceffylau o'r ddaear ac o floc esgyn
- addasu hyd y gwartholion a'r ffrwynau i gyd-fynd â marchogion unigol yn ôl y galw
- adnabod a hysbysu arweinydd y daith ferlota ynghylch sefyllfaoedd peryglus
- cynnal gweithdrefnau ar ôl y daith ar gyfer y ceffylau a'r marchogion, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gwirio iechyd a chyflwr y ceffylau ar ôl dychwelyd o'r daith ferlota
- rhoi dwr i'r ceffylau a'u gwneud yn gyfforddus yn unol â'r tymor a lefelau gwaith
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- pam y mae'n bwysig dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar gyfer gweithgareddau merlota
- y peryglon posibl yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws wrth fynd ar gefn ac oddi ar gefn ceffylau o'r ddaear ac o floc esgyn
- y gofynion yswiriant ar gyfer sefydliadau merlota
- pwysigrwydd cysylltiadau cwsmeriaid da
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- pam y mae'n bwysig adnabod harneisiau sydd wedi eu gosod yn wael, sydd wedi torri neu sydd yn anniogel
- y mathau gwahanol o deithiau merlota a gofynion teithiau merlota byr a hir a'r gwahaniaethau tymhorol
- y gweithdrefnau ar gyfer asesu'r ceffylau a'r cleientiaid cyn merlota, yn cynnwys gwiriadau iechyd ac unrhyw ddogfennau cofrestru neu iechyd angenrheidiol
- sut a phryd i ddefnyddio numnahs a phadiau cyfrwy
- sut i harneisio, diharneisio ac addasu harneisiau ar gyfer esmwythdra a diogelwch
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cynorthwyo gyda theithiau merlota yn cynnwys:
- dechreuwyr
- marchogion cymwys
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Harneisiau ac offer:
PPE a hi-vis posibl
ffrwynau
- cyfrwy
- strap gwddf
- numnahs amddiffynnol