Ymarfer ceffylau rasio o dan oruchwyliaeth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys ymarfer ceffylau rasio o dan oruchwyliaeth, mewn ardaloedd carlamu ac mewn ardaloedd hyfforddi eraill. Bydd angen i chi ymarfer ceffylau rasio fel mater o drefn ar lefelau ffitrwydd gwahanol.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cwblhau'r paratoadau perthnasol cyn dechrau marchogaeth
- mynd at y ceffyl rasio yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl rasio, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- mynd ar gefn ac oddi ar gefn y ceffyl rasio, yn unol â'r gweithdrefnau
- addasu osgo a chyflymder y ceffyl yn unol â'r amodau pennaf a'r ardal ymarfer
- cynnal y safle cywir a chydbwysedd drwy'r amser
- cynnal arferion ymarfer ar gyfer y ceffyl rasio yn unol â'r amodau, yr ardal ymarfer a'r gyfundrefn, o dan oruchwyliaeth
- nodi a hysbysu'r person priodol ynghylch unrhyw anawsterau
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- pwysigrwydd dilyn arferion ymarfer
- paratoi ceffylau rasio ar gyfer ymarfer arferol
- y peryglon yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws wrth ymarfer ceffylau rasio a'r person priodol i'w hysbysu ynghylch y rhain
- y mathau a'r defnydd o gymhorthion ar gyfer symudiadau syml
- effeithiau'r tywydd ar arwynebedd a sut y gallai hyn effeithio ar farchogaeth
- sut i addasu osgo a chyflymder yn unol â'r amodau a'r ardal ymarfer
- y camau i'w cymryd os bydd damwain neu ddigwyddiad
- y peryglon i geffylau rasio, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Paratoi'r canlynol cyn ymarfer ceffyl rasio:
- harneisiau
- addasu'r cenglau
- cyfarwyddiadau ymarfer
Ystyried yr amodau canlynol:
- y tywydd
- marchogaeth mewn grŵp
Ymarfer ceffylau rasio yn y mannau canlynol:
- ardal gaeedig
- ardal hyfforddi
- ardaloedd hyfforddiant carlamu
Cyflawni'r arferion ymarfer canlynol gyda cheffyl rasio:
- cerdded
- trotian
- hanner carlamu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Sut i adnabod a hysbysu ynghylch yr anawsterau canlynol:
- cyflwr y ceffyl
- anallu i ddilyn trefn ymarfer