Marchogaeth ceffylau rasio ar y ffordd neu hyfforddiant carlamu o dan oruchwyliaeth

URN: LANEq226
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â marchogaeth ceffylau rasio ar y ffordd neu hyfforddiant carlamu, o dan oruchwyliaeth, ac yn unol â gweithdrefnau sydd wedi eu nodi.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. mynd at y ceffyl rasio yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl rasio, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  3.  paratoi ceffylau rasio ar gyfer ymarfer arferol o dan oruchwyliaeth
  4. cwblhau'r paratoadau perthnasol cyn dechrau marchogaeth
  5. mynd ar gefn ac oddi ar gefn ceffylau rasio yn ddiogel
  6. addasu osgo a chyflymder yn unol â'r amodau sy'n bodoli
  7. dilyn gweithdrefnau ar gyfer marchogaeth ceffylau rasio ar ffyrdd, llwybrau i ac o hyfforddiant carlamu, bob amser
  8. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddefnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. y gofynion diogelwch ar y ffyrdd a'r adrannau perthnasol o Reolau'r Ffordd Fawr wrth farchogaeth ar ffyrdd
  3. sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  4. sut i baratoi ceffyl rasio ar gyfer ymarfer arferol ar y ffordd neu mewn hyfforddiant carlamu
  5. sut i gynllunio'r llwybr
  6. cyfrifoldebau marchogaeth mewn grwp ac ar eich pen eich hun
  7. effaith y tywydd ar eglurder, arwyneb ac amodau'r ddaear a sut y gallai hyn effeithio ar farchogaeth
  8. y camau i'w cymryd os bydd damwain/digwyddiad
  9. y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
  10. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

Paratoi'r canlynol:

  • harneisiau
  • llwybr
  • safle mewn rhes

Ystyried pedwar o'r canlynol, wrth farchogaeth ar y ffordd neu i hyfforddiant carlamu:

  • arwyneb a chyflwr y ddaear

  • y tywydd

  • defnyddwyr eraill y ffyrdd
  • marchogaeth mewn grŵp
  • eglurder

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq226

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; iechyd a lles anifeiliaid; ras; marchogaeth; carlamu; ffordd