Gofalu am geffylau rasio ar ôl rasio
URN: LANEq225
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys gofalu am geffylau rasio ar ôl iddynt rasio mewn unrhyw gyfarfod sy'n cael ei gydnabod gan yr Awdurdod Caeau Rasio. Byddwch yn gallu dewis yr offer a'r deunyddiau priodol er mwyn gwneud tasgau arferol fel tawelu, golchi, gosod carthenni a gwiriadau iechyd.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- mynd at y ceffyl rasio yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- rheoli'r ceffyl rasio ar ôl y ras
- arwain y ceffyl rasio i'r lleoliad priodol, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gofalu am y ceffyl rasio ar ôl y ras
- nodi unrhyw broblemau iechyd a chyflwr y ceffyl rasio a hysbysu'r person priodol yn eu cylch
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddefnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- y pryderon iechyd a lles sy'n gysylltiedig â rasio a'r camau i'w cymryd
- y peryglon yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws wrth reoli ceffylau rasio ar ôl rasio
- y gweithdrefnau y mae'n rhaid eu dilyn ar ôl y ras, yn cynnwys arwain enillwyr i lociau ac arwain ceffylau i'r bocs milfeddygol
- rheolau atal camddefnyddio cyffuriau a gweithdrefnau profi am gyffuriau
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- pwysigrwydd darparu dwr yn gywir ar ôl rasio
- y problemau iechyd a allai ddigwydd ar ôl rasio, yn cynnwys cloffni a mân anafiadau
- y peryglon i geffylau rasio, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- rôl y gof, y milfeddyg a swyddogion y cae rasio pan fydd angen eu cymorth arnoch
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Arwain y ceffyl rasio i un o'r lleoliadau canlynol:
- lloc yr enillwyr
- lloc tynnu'r cyfrwy
- bocs milfeddygol
Darparu gweithdrefnau ar ôl rasio:
- tawelu
- golchi
- gosod carthenni
- gwiriadau iechyd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq225
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffyl; ceffylau; ras; marchogaeth; iechyd a lles anifeiliaid