Paratoi ceffylau rasio ar gyfer cyfarfodydd rasio

URN: LANEq224
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi ceffylau rasio ar gyfer cyfarfodydd rasio yn unol ag unrhyw gyfarfod a gydnabyddir gan yr Awdurdod Caeau Rasio, gan ddefnyddio cardiau hunaniaeth a phasbortau. Bydd yn ofynnol i chi ddeall y gweithdrefnau sylfaenol ar gyfer mynd i mewn i'r cae ras a threfniadau cyn rasio.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. cydymffurfio â gweithdrefnau mynd i mewn i'r cae rasio ar gyfer cyfarfodydd rasio bob amser
  3. mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  4. paratoi'r ceffyl rasio am y cylch arddangos yn unol â'r cyfarwyddiadau
  5. cadw rheolaeth dros y ceffyl yn ystod arferion cyn rasio ac yn y cylch arddangos
  6. cynnal diogelwch a chyfrinachedd y wybodaeth yn unol â'r cyfarwyddiadau
  7. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. diben pasbortau a chardiau hunaniaeth a sut i'w defnyddio
  3. gweithdrefnau mynediad i'r cae rasio mewn cyfarfodydd rasio
  4. sut i fynd at geffylau rasio mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen a'r perygl i chi eich hun ac i eraill
  5. ymddygiad ceffylau rasio cyn neu ar ôl rasio
  6. yr arferion cyn rasio a'u diben
  7. y mathau o beryglon yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws wrth ymdrin â cheffylau rasio mewn cyfarfodydd rasio
  8. y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
  9. y rhesymau pam y mae'n rhaid cynnal diogelwch a chyfrinachedd
  10. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

Mynd â cheffylau rasio i gyfarfodydd rasio gan ddefnyddio:

  • cardiau hunaniaeth
  • pasbortau

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq224

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; ras; marchogaeth