Gofalu am geffylau perfformio ar ôl gwaith egnïol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gofalu am geffylau perfformio ar ôl gwaith egnïol. Mae ceffylau perfformio yn cynnwys ceffylau ar gyfer rasio, cystadlaethau a gyrru.
Mae'r safon hon yn cynnwys gofalu am y ceffyl ar ôl gwaith egnïol yn unol ag anghenion y ceffyl unigol, y tywydd a'r adeg o'r flwyddyn.
Dylech fod yn gallu gofalu am geffyl poeth, chwyslyd yn syth ar ôl ymarfer a cheffyl oer, gwlyb ar ôl dychwelyd o ymarfer.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- gofalu am geffylau perfformio ar ôl gwaith egnïol trwy dynnu harneisiau ac offer, gan gynnal diogelwch ac esmwythdra'r ceffyl drwy'r amser
- golchi, oeri a sychu'r ceffyl fel y bo'n briodol, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- rhoi dillad ac offer priodol ar y ceffyl, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gwirio coesau a thraed y ceffyl a hysbysu'r person priodol ynghylch unrhyw broblemau
- cynorthwyo i osod paratoadau arbenigol ar gyfer y coesau yn unol â'r cyfarwyddiadau
- rhoi bwyd a dwr i'r ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau
- monitro iechyd a llesiant y ceffyl ar ôl ymarfer a hysbysu'r person priodol ynghylch unrhyw broblemau
- cynorthwyo gydag unrhyw driniaeth i geffylau â phroblemau iechyd
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- arwyddion blinder a straen mewn ceffylau ar ôl gwaith egnïol
- sut i oeri a sychu'r ceffyl a'r rhesymau pam y mae'n rhaid ystyried y tywydd
- gofynion gofal ceffylau yn dibynnu ar hyd a dwyster y gwaith egnïol
- gofynion trin a glanhau'r ceffylau ar ôl gwaith
- y dillad a'r offer y mae'n rhaid eu defnyddio ar gyfer ceffylau, yn cynnwys cynfasau chwysu a charthenni thermol
- pwysigrwydd gwirio coesau a thraed y ceffylau ar ôl gwaith egnïol
- y mathau a'r rhesymau dros baratoadau arbenigol ar gyfer y coesau yn cynnwys powltrisiau a rhwymau
- y gofynnon porthiant a dwr yn dilyn gwaith egnïol
- sut i adnabod a hysbysu ynghylch problemau iechyd a phwysigrwydd monitro'r ceffyl yn enwedig mewn perthynas â dysychu
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Gofalu am:
- geffyl poeth chwyslyd yn syth ar ôl gwaith egnïol
- ceffyl gwlyb ar ddiwrnod oer wrth ddychwelyd o waith egnïol
Golchi:
- golchi â sbwng
- golch llawn
- chwistrellu
- crafu chwys
Defnyddio dau o'r canlynol ar ôl oeri a sychu:
- cerdded o amgylch
- rhwbio â lliain
- lampau gwres
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Problemau iechyd:
problemau cyfradd anadlu
trychiadau
- chwyddo
- problemau gyda phedolau
- dim archwaeth a ddim yn yfed