Gofal dros geffylau mewn cystadlaethau

URN: LANEq221
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gofalu am geffylau mewn cystadlaethau. Bydd yn ofynnol i chi gydymffurfio â rheolau a chwrteisi'r gystadleuaeth briodol.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. cydymffurfio â rheoliadau a chwrteisi'r gystadleuaeth briodol bob amser
  3. mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  4. gofalu am y ceffylau wrth gyrraedd cystadlaethau, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  5. adnabod unrhyw arwyddion o salwch ac anaf i'r ceffylau a hysbysu'r person priodol ynghylch y rhain
  6. rhoi porthiant, dwr ac ymarfer i'r ceffylau cyn, yn ystod ac ar ôl cystadlaethau, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  7. paratoi'r ceffylau ar gyfer y gystadleuaeth ar yr adeg briodol, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  8. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. rheolau a rheoliadau'r gystadleuaeth a phwysigrwydd cadw atynt
  3. ymddygiad a chwrteisi derbyniol ar gyfer unigolion mewn cystadlaethau
  4. pasbortau a gofynion hunaniaeth ceffylau
  5. sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  6. adweithiau ceffylau i amgylchedd cystadleuaeth
  7. sut i ofalu am y ceffylau mewn cystadlaethau
  8. sut i baratoi ceffylau ar gyfer cystadlaethau
  9. y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
  10. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

​Gofalu am geffylau yn ystod dwy gystadleuaeth wahanol.


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gofal:

  • dŵr
  • porthiant
  • cynhesu
  • tawelu

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq221

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; marchogaeth; iechyd a lles anifeiliaid