Ceffylau wedi eu disgyblu i neidio
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys ceffylau wedi eu disgyblu i neidio. Bydd hyn yn cynnwys neidio mewn ardal gaeëdig neu mewn man agored, dros glwydi, ac yn dilyn cyfarwyddiadau, sydd yn cynnwys gridiau a ffensys unigol hyd at 70cm (2 droedfedd 6 modfedd). Byddwch hefyd yn dilyn y llwybr cywir ac yn addasu eich cyflymder i gyd-fynd â’r math o naid e.e. trotian neu hanner carlamu.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- neidio ceffylau wedi eu disgyblu
- mabwysiadu a chynnal y safle marchogaeth cywir
- cynhesu'r ceffyl yn briodol, ar gyfer neidio
- cynnal safle cytbwys, nad yw'n niweidiol i'r ceffyl, tra'n neidio dros glwydi
- dilyn y llwybr cywir, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- addasu cyflymder ac osgo'r ceffyl i gyd-fynd â'r lleoliad a'r math o naid
- tawelu'r ceffyl yn briodol, ar ôl neidio
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- y rhesymau dros ddilyn y llwybr cywir a chyflwyno'r ceffyl i'r ffens yn gywir
- sut i gynhesu ceffylau cyn neidio, a'u tawelu ar ôl hynny
- y camau i'w cymryd os yw'r ceffyl yn gwrthod neidio neu'n rhedeg allan
- egwyddorion rheoli ceffyl wrth neidio
- y peryglon yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws wrth neidio ceffylau
- y camau i'w cymryd mewn tywydd a chyflwr arwyneb anffafriol
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Neidio dau geffyl wedi eu disgyblu mewn ardal caeëdig neu mewn ardal agored.
Cyflawni dau o'r neidiau canlynol:
- clwydi
- gridiau
Neidio o:
- drotian
- hanner carlamu