Marchogaeth ceffylau wedi eu disgyblu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys marchogaeth ceffylau wedi eu disgyblu. Bydd hyn yn cynnwys y cyfarwyddiadau penodol canlynol ar gyfer disgyblu sylfaenol wrth gerdded, trotian a hanner carlamu. Dylech allu ymarfer ceffylau gyda gwartholion a hebddynt, yn unigol ac mewn grŵp.
Byddai’r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â’r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
gwirio ac addasu harneisiau fel ei fod yn addas ar gyfer marchogaeth y ceffyl wedi ei ddisgyblu
mynd ar gefn ac oddi ar gefn y ceffyl wedi ei ddisgyblu yn ddiogel a heb gymorth
mabwysiadu safle marchogaeth cytbwys nad yw'n niweidiol i'r ceffyl wedi ei ddisgyblu
cynhesu'r ceffyl er mwyn paratoi ar gyfer y symudiadau
marchogaeth y ceffyl wedi ei ddisgyblu mewn ffordd wedi ei rheoleiddio sydd yn addas ar gyfer yr ardal waith a'r amodau, yn cynnwys y gallu i gynnal rhythm, ystwythder a chyswllt
gwneud symudiadau yn ddiogel, yn unol â'r cyfarwyddiadau
tawelu'r ceffyl yn briodol ar ôl symudiadau
cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- effeithiau marchogaeth mewn grwpiau neu'n unigol ar ymddygiad ceffyl
- y rhesymau dros fabwysiadu safle marchogaeth cytbwys
- pam y mae'n bwysig gwirio harneisiau ac addasu cenglau a gwartholion
- y peryglon yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws wrth farchogaeth a'r camau i'w cymryd mewn ymateb i'r rhain
- egwyddorion marchogaeth ceffyl wedi ei ddisgyblu a'r cymhorthion ar gyfer ymarferion syml
- pwysigrwydd cynhesu a thawelu'r ceffyl yn briodol
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Marchogaeth isafswm o ddau geffyl.
Mynd ar gefn ceffyl:
- gyda chymorth
- heb gymorth
Marchogaeth:
- gyda gwartholion
- heb wartholion
- yn unigol
- mewn grwpiau
- gyda'r awenau mewn un llaw
Cyflawni symudiadau:
- cerdded
- trotian ar y groeslin gywir
- hanner carlamu ar y tennyn cywir
- symudiadau disgyblu syml
- aros
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Peryglon:
- arwynebeddau anffafriol
- ceffylau eraill
- pobl eraill
- tywydd anffafriol
Harneisiau:
- cyfrwy
- cengl
- ffrwyn enafog
- gwartholion
Rhythm:
- rheoleidd-dra'r camau wrth gerdded
- trotian
- carlamu
Ystwythder:
- mae'r ceffyl yn rhydd rhag tensiwn ac ymwrthedd i gymhorthion
Cyswllt:
- cyswllt meddal, cyson rhwng y llaw a'r geg, wedi ei gyflawni wrth farchogaeth ymlaen o'r goes i'r llaw, (mae cyswllt gwirioneddol yn cael ei sefydlu o weithgaredd coesau ôl y ceffyl)