Marchogaeth ac arwain ceffylau yn yr awyr agored
URN: LANEq216
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys marchogaeth ac arwain ceffylau yn yr awyr agored. Gallai hyn gynnwys cerdded a throtian. Dylech fod yn gallu ymarfer ceffylau yn unigol ac mewn grŵp. Bydd hyn yn cynnwys ystod o geffylau.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon yn y gweithle
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cwblhau'r paratoadau perthnasol cyn dechrau marchogaeth
- mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- dewis a gosod harneisiau ac offer addas yn cynnwys cenglau, ffrwyn ac esgidiau uchel
- cadw rheolaeth dros geffylau sy'n cael eu marchogaeth a'u harwain mewn ffordd ddiogel yn unol â'r cyfarwyddiadau
- marchogaeth ac arwain ceffylau i gerdded a throtian yn unol â'r amodau yn cynnwys gallu aros, troi i'r chwith ac i'r dde
- mynd ar gefn y ceffyl yn ddiogel gyda a heb gymorth
- mynd oddi ar y ceffyl yn ddiogel
- hysbysu'r person priodol ynghylch unrhyw anawsterau, fel y bo angen
- dychwelyd y ceffylau i'r llety ar ôl cwblhau'r ymarfer
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- sut i asesu addasrwydd ceffylau ar gyfer eu marchogaeth a'u harwain
- y peryglon yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws wrth farchogaeth ac arwain ceffylau mewn man agored a'r camau i'w cymryd mewn ymateb i'r rhain
- y paratoadau angenrheidiol cyn marchogaeth, yn cynnwys cyfarwyddiadau ymarfer, cyfathrebu ac offer
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Symudiadau dilynol:
- cerdded
- trotian
- aros
- troi i'r chwith ac i'r dde
- mynd ar gefn
- mynd oddi ar gefn
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Sut i ymateb i sefyllfaoedd:
ceffylau eraill, pobl a cherbydau
tywydd gwahanol
- arwynebeddau anffafriol
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Peryglon:
ceffylau eraill
da byw
- cnydau
- pobl
- anifeiliaid eraill
- beicwyr
- cerbydau
- tywydd
- arwynebeddau anffafriol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq216
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; marchogaeth; ffrwyn; esgidiau uchel; harneisiau; gwartholion