Marchogaeth ceffylau yn yr awyr agored
URN: LANEq215
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Ceffylau
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2017                        
                    
                Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys marchogaeth ceffylau yn yr awyr agored, yn cynnwys cerdded, trotian a hanner carlamu. Dylech fod yn gallu ymarfer yn unigol ac mewn grŵp. Bydd hyn yn cynnwys ystod o geffylau.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
 - cwblhau'r paratoadau perthnasol cyn dechrau marchogaeth
 - mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
 - marchogaeth y ceffyl yn yr awyr agored mewn ffordd wedi ei rheoli sy'n briodol i'r ardal waith a'r amodau
 - hysbysu'r person priodol ynghylch unrhyw anawsterau, fel y bo angen
 - addasu'r harneisiau i fodloni eich gofynion eich hun yn cynnwys cenglau a gwartholion
 - mynd ar gefn y ceffyl ac oddi ar y ceffyl yn ddiogel heb gymorth
 - mabwysiadu'r safle marchogaeth cywir i ymarfer rheolaeth dros y ceffyl
 - marchogaeth y ceffyl yn yr awyr agored yn unigol ac mewn grwpiau
 - dilyn Codau Cefn Gwlad/Mynediad perthnasol ar gyfer marchogaeth yn yr awyr agored
 - cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gwaith
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
 - sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen a pherygl i chi eich hun ac i eraill
 - yr effeithiau gwahanol ar ymddygiad ceffyl wrth farchogaeth ceffylau yn yr awyr agored yn unigol ac mewn grwp
 - y paratoadau angenrheidiol cyn marchogaeth, yn cynnwys cyfarwyddiadau ymarfer, cyfathrebu ac offer
 - y rhesymau dros fabwysiadu'r safle marchogaeth cywir
 - pam y mae'n bwysig gwirio'r harneisiau ac addasu cenglau a gwartholion
 - egwyddorion sylfaenol rheoli ceffyl
 - y peryglon yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws wrth farchogaeth mewn man agored a'r camau i'w cymryd mewn ymateb i'r rhain
 - pwysigrwydd dilyn arferion ymarfer a'r cymhorthion y gellir eu defnyddio
 - y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd damwain neu ddigwyddiad
 - y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
 - eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
 - y Codau Cefn Gwlad/Mynediad perthnasol, yn cynnwys caniatâd i fynd ar dir i farchogaeth ceffylau yn yr awyr agored
 
Cwmpas/ystod
Mae'n rhaid i chi farchogaeth isafswm o ddau geffyl.
Mynd ar gefn ceffyl:  
- gyda chymorth
 - heb gymorth
 
Addasu'r harneisiau ar gyfer eich defnydd chi:
- cenglau
 - gwartholion
 - ffrwynau
 
Symudiadau dilynol:
- cerdded
 - trotian
 - hanner carlamu
 - ymdrin â gatiau
 
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Peryglon:
- ceffylau eraill
 - da byw
 - cnydau
 - pobl
 - anifeiliaid eraill
 - beicwyr
 - cerbydau
 - y tywydd
 - arwynebeddau anffafriol
 
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Lantra
        
    
URN gwreiddiol
        LANEq215
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau        
    
Cod SOC
Geiriau Allweddol
            ceffyl; ceffylau; marchogaeth; cae; glaswellt; trotian; hanner carlamu; gwartholion