Marchogaeth ceffylau ar y ffordd

URN: LANEq214
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â marchogaeth ceffylau ar y ffordd. Mae'r safon hon yn cynnwys marchogaeth yn ddiogel ar y ffordd yn unol â Rheolau'r Ffordd Fawr. Bydd hyn yn cynnwys marchogaeth ar y ffordd mewn ystod o amodau.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  3. gosod harneisiau ac offer addas ar gyfer marchogaeth ceffylau ar y ffordd
  4. cwblhau'r paratoadau perthnasol cyn dechrau marchogaeth ar y ffordd
  5. cynllunio'r daith a fwriedir ar y ffordd
  6. mynd ar gefn ac oddi ar gefn ceffylau yn ddiogel
  7. addasu cerddediad a chyflymder yn unol â'r cyfarwyddiadau
  8. dilyn Rheolau'r Ffordd Fawr ar gyfer marchogaeth ar y ffordd bob amser
  9. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddewis, defnyddio a gofalu am  offer amddiffynnol personol
  2. gofynion diogelwch ar y ffordd a pherthnasedd Rheolau'r Ffordd Fawr
  3. cyfrifoldebau ac egwyddorion marchogaeth ceffyl mewn grwp ar y ffordd
  4. sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  5. yr amodau a allai effeithio ar farchogaeth ceffyl ar y ffordd
  6. y camau i'w cymryd os bydd damwain neu ddigwyddiad
  7. y rhagofalon iechyd a diogelwch i'w cymryd wrth farchogaeth ceffyl ar y ffordd
  8. y peryglon yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws wrth farchogaeth ceffyl ar y ffordd
  9. safle'r ceffyl ar y ffordd yn arbennig ar gyffyrdd
  10. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

Marchogaeth dau geffyl gwahanol ar y ffordd.​

Addasu cerddediad a chyflymder yn unol â phedwar o'r amodau canlynol:

  • arwyneb y ffordd

  • y tywydd

  • defnyddwyr eraill ar y ffordd
  • marchogaeth mewn grŵp
  • marchogion eraill
  • amlygrwydd

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq214

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; marchogaeth; ffordd; iechyd a lles anifeiliaid