Gofalu am geffylau ar ôl ymarfer
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gofalu am geffylau ar ôl ymarfer corff. Bydd hyn yn cynnwys ystod o geffylau, yn cynnwys ceffyl poeth, chwyslyd yn syth ar ôl ymarfer a cheffyl gwlyb ar ddiwrnod oer ar ôl dychwelyd o ymarfer.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- dewis a pharatoi offer a dillad addas i ofalu am geffylau ar ôl ymarfer
- mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- darparu gofal, sy'n briodol i gyflwr y ceffyl ar ôl ymarfer
- gwirio coesau a thraed y ceffyl ar ôl ymarfer
- hysbysu'r person priodol ynghylch iechyd a chyflwr y ceffyl, gallai hyn fod ar lafar neu'n ysgrifenedig
- rhoi bwyd a dwr i'r ceffyl, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- mynd â'r ceffyl yn ôl i'r stabl neu'r cae gan sicrhau esmwythdra a diogelwch
- glanhau a thrin y ceffyl, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cael eglurhad os nad yw'r cyfarwyddiadau'n glir
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- arwyddion o flinder a straen yn y ceffyl yn dilyn ymarfer, yn cynnwys arwyddion nad yw'r ceffyl yn gwella ac adnabod arwyddion cyntaf dysychu
- gofynion porthiant a dwr y ceffyl yn dilyn ymarfer
- anghenion y ceffyl yn dibynnu ar hyd a dwyster yr ymarfer a'r amser o'r flwyddyn
- gofynion trin a glanhau ceffylau, yn dilyn gwaith
- sut i ddewis a defnyddio offer a dillad priodol i ofalu am geffylau ar ôl ymarfer
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Mae'n rhaid i chi roi tystiolaeth o berfformiad er mwyn gofalu am ddau geffyl gwahanol ar ôl gwaith ar ddau achlysur.
Mae'n rhaid i chi roi tystiolaeth o berfformiad ar gyfer gofalu am un o'r canlynol:
- ceffyl poeth chwyslyd yn syth ar ôl ymarfer
- ceffyl gwlyb ar ddiwrnod oer ar ôl dychwelyd o ymarfer
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Offer:
- deunydd golchi
- coler pen
- offer trin
Dillad
- cynfas chwys
- carthen gynnes