Rhoi ceffyl ar ffrwyn hir o dan oruchwyliaeth
URN: LANEq211
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi ceffyl ar ffrwyn hir o dan oruchwyliaeth. Bydd hyn yn cynnwys rhoi ystod o geffylau ar ffrwyn hir.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gwirio bod yr ardal yn addas ar gyfer ymarfer ceffylau ar ffrwyn hir a chymryd y camau priodol os nad ydyw
- mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- gwirio bod y ceffyl mewn cyflwr addas i gael ei roi ar ffrwyn hir
- dewis, gwirio a gosod harneisiau ac offer ffrwyn hir addas, o dan oruchwyliaeth
- cadw rheolaeth dros y ceffyl bob amser, sy'n briodol i'r amodau
- defnyddio dulliau priodol i roi'r ceffyl ar ffrwyn hir, o dan oruchwyliaeth
- tynnu a storio harneisiau ac offer ceffylau yn gywir
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau ar gyfer rhoi ceffylau ar ffrwyn hir ar gyfer ymarfer
- y rhesymau dros roi ceffylau ar ffrwyn hir
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- sut i wirio bod y ceffyl yn addas i gael ei roi ar ffrwyn hir, ac adnabod arwyddion salwch, cloffni neu anaf, fyddai'n effeithio ar les y ceffyl pe byddai'n cael ei weithio
- y mathau a'r defnydd o harneisiau ac offer ceffylau yn cynnwys penwar a ffrwyn hir
- y gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â rhoi ceffylau ar ffrwyn hir
- y dulliau gwahanol o ddefnyddio ffrwyn hir yn dibynnu ar y defnydd a fwriedir ar gyfer y ceffyl
- sut i gadw rheolaeth dros y ceffyl bob amser
- y ffyrdd y mae'r amodau, fel y tywydd, arwyneb a cheffylau eraill yn effeithio ar y broses o roi ceffyl ar ffrwyn hir
- yr amser y gellir rhoi ceffyl ar ffrwyn hir a pham y mae hyn yn bwysig
- peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y gellir lleihau'r peryglon hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq211
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; ffrwyn hir; iechyd a lles anifeiliaid; harneisiau