Cymhwyso, gosod a chynnal a chadw harneisiau ac offer ceffylau ar gyfer ymarfer marchogaeth
URN: LANEq210
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chymhwyso, gosod a chynnal a chadw harneisiau ac offer ceffylau ar gyfer ymarfer marchogaeth gydag ystod o geffylau.
Mae'n cynnwys gosod harneisiau ar geffylau yn barod ar gyfer ymarfer. Bydd angen i chi osod, tynnu a chynnal a chadw harneisiau ac offer ceffylau priodol.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn gwaith cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau'r gwaith.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- cael eglurhad pan nad yw'r cyfarwyddiadau'n glir
- cymhwyso a gosod harneisiau ac offer ceffylau addas ar geffylau ar gyfer ymarfer marchogaeth
- tynnu harneisiau ac offer oddi ar geffylau ar ôl ymarfer
- hysbysu'r person priodol ynghylch unrhyw broblemau
- glanhau, cynnal a chadw a storio harneisiau ac offer ceffylau
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- egwyddorion cymhwyso, gosod a chynnal a chadw harneisiau ac offer ceffylau ar gyfer ymarfer marchogaeth
- y rhesymau dros wirio'r ceffyl am esmwythdra a diogelwch
- yr ystod o harneisiau ac offer ceffylau sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin
- adnabod rhannau o gyfrwy a ffrwyn enafog y ceffyl
- sut i lanhau, cynnal a chadw a storio harneisiau ac offer ceffylau
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- y problemau allai ddigwydd wrth osod harneisiau ac offer ar geffylau a pha gamau i'w cymryd
- sut i adnabod harneisiau wedi eu gosod yn wael ar geffyl a'r camau i'w cymryd
- sut i adnabod harneisiau wedi eu gosod yn gywir ar geffyl
- peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y gellir lleihau'r peryglon hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Gosod a chynnal a chadw'r harneisiau canlynol:
- ffrwyn enafog
- morticals
- cyfrwyau
- bandiau trwyn a genfeydd
- brestblad
- esgidiau uchel
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq210
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffyl; ceffylau; harneisiau; ymarfer; ffrwynau enafog; morticals; cyfrwyau; bandiau trwyn; genfeydd; brestbladau