Troi ceffylau allan a’u cynnal mewn ardal bori

URN: LANEq209
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys troi ceffylau allan a'u cynnal mewn ardal bori a gwirio ceffylau a thir fel mater o drefn. Mae hefyd yn cynnwys dal ceffyl ar dir pori.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. gwirio fel mater o drefn bod y tir, ffiniau, gatiau ac unrhyw loches yn addas ac yn ddiogel a hysbysu'r person priodol ynghylch unrhyw broblemau, yn cynnwys ar lafar neu'n ysgrifenedig
  3. gwirio bod cyflenwad digonol o ddŵr glân ar gael
  4. mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  5. dewis a gosod offer os oes angen cyn arwain y ceffylau i'r ardal bori
  6. troi'r ceffylau allan i'r ardal bori yn unol â'r cyfarwyddiadau
  7. cynnal ceffylau trwy wirio eu hymddygiad a'u cyflwr, fel y bo'n briodol
  8. cymryd y camau priodol i ddatrys unrhyw broblemau
  9. dal ceffylau o'r ardal bori a dod â cheffylau i mewn yn unol â'r cyfarwyddiadau
  10. cael eglurhad pan nad yw'r cyfarwyddiadau'n glir
  11. cyfathrebu gydag eraill a chynnal gwaith tîm effeithiol
  12. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddewis, defnyddio a gofalu am  offer amddiffynnol personol
  2. y peryglon posibl a allai ddigwydd wrth symud, troi ceffylau allan a'u dal
  3. sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  4. dulliau o droi ceffylau allan i ardaloedd pori rheolaidd a newydd
  5. pa mor aml i wirio'r ceffyl, y cae a'r dwr yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn a'r tywydd
  6. y mathau o gofnodion sydd eu hangen a phwysigrwydd cadw cofnodion cywir
  7. sut i gyflwyno ceffyl newydd i grwp sydd wedi ei sefydlu
  8. ymddygiad grŵp ceffylau
  9. peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y gellir lleihau'r peryglon hyn
  10. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol.

Cwmpas/ystod

​Cynnal ceffylau ar dir pori:

  • yn ystod yr haf
  • yn ystod y gaeaf
  • drwy'r flwyddyn

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Gallai'r ffiniau gynnwys:

  • muriau
  • ffensys
  • ffosydd
  • gwrychoedd

Ymddygiad grŵp ceffylau:

  • greddf naturiol
  • gweithredoedd
  • adweithiau

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq209

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; glaswellt; cae; pori; tir; lles anifeiliaid