Asesu tir pori ar gyfer cyflwyno ceffylau
URN: LANEq208
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hwn yn ymwneud ag asesu tir pori ar gyfer cyflwyno ceffylau.
Mae hyn yn cynnwys adnabod a dileu peryglon, darparu cyflenwad addas o ddŵr a gwirio ffiniau ac ansawdd pori.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu maint ac ansawdd tir pori er mwyn sicrhau ei fod yn briodol ar gyfer cyflwyno ceffylau
- cadarnhau bod ffiniau'r tir pori yn ddiogel a, lle y bo'n briodol, hysbysu ynghylch unrhyw broblemau, yn cynnwys ar lafar ac yn ysgrifenedig
- cadarnhau bod gatiau'r tir pori yn ddiogel a hysbysu ynghylch unrhyw broblemau, yn cynnwys ar lafar neu'n ysgrifenedig
- sicrhau bod cyflenwad digonol o ddwr glân ar gael i'r ceffylau
- cyfathrebu gydag eraill a chynnal gwaith tîm effeithiol
- adnabod a hysbysu ynghylch peryglon neu adrodd i'r person priodol yn eu cylch
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cyflwr ac ansawdd y glaswellt a nifer y ceffylau y gellir eu cadw arno
- y mathau gwahanol o ddarparu dwr ar gyfer ceffylau
- pwysigrwydd pori glân wrth atal heintiau parasitig
- y mathau cyffredin o blanhigion a chwyn sydd yn wenwynig i geffylau a sut i'w hadnabod
- addasrwydd cyflenwad dwr y ceffylau
- addasrwydd mathau gwahanol o ffensys neu ffiniau ar gyfer ceffylau
- lleoliad delfrydol gât a mesurau priodol ar gyfer sicrhau gatiau
- peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y gellir lleihau'r peryglon hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r ffiniau'n cynnwys:
- muriau
- ffensys
- ffosydd
- gwrychoedd
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq208
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffyl; ceffylau; pori; cae; tir; ffiniau; iechyd a lles anifeiliaid