Glanhau a thrin ceffylau ar gyfer ymddangosiad

URN: LANEq207
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â glanhau a thrin ceffylau ar gyfer ymddangosiad.  Gall hyn gynnwys gwneud ceffylau yn ddeniadol i'w gwerthu. Fel rhan o'u trin, bydd angen i chi wirio carnau'r ceffyl.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. dewis a defnyddio offer trin yn ddiogel ac yn gywir
  3. mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  4. glanhau a thrin ceffylau ar gyfer ymddangosiad yn effeithiol ac yn gywir
  5. golchi a sychu ceffylau yn unol â'r amodau a'r gofynion
  6. cydnabod ac adrodd pan fydd angen twtio neu ail-bedoli carnau ceffyl
  7. glanhau offer ar ôl ei ddefnyddio a'i storio yn y man dynodedig
  8. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddewis, defnyddio a gofalu am  offer amddiffynnol personol
  2. sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  3. technegau trin a’r defnydd cywir o’r offer trin llawn
  4. rhesymau dros ac egwyddorion glanhau a thrin ceffylau, yn cynnwys iechyd a hylendid
  5.  y weithdrefn ar gyfer golchi a sbwnjo ceffylau budr a’u sychu
  6. sut i adnabod pan gall fod angen sylw ar garnau ceffyl a’r camau i’w cymryd
  7. y mathau o broblemau a allai ddigwydd gydag esgidiau’r ceffyl a’r camau i’w cymryd
  8. peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y gellir lleihau’r peryglon hyn
  9. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

​Glanhau a thrin ceffylau:
•    rhoi bath i geffyl a'i sychu
•    trin ceffyl ar gyfer ymddangosiad cyhoeddus


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq207

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; glanhau; trin; stablau; iard; iechyd a lles anifeiliaid