Plethu myngau a thwtio ceffylau
URN: LANEq206
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Ceffylau
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2017                        
                    
                Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys plethu myngau a thwtio ceffylau. Gellir gwneud hyn ar gyfer ystod o geffylau.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
 - mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
 - defnyddio technegau atal sydd yn lleihau straen ac anaf wrth blethu myngau a thwtio ceffylau
 - paratoi a phlethu mwng y ceffyl, yn unol â'r cyfarwyddiadau
 - twtio mwng neu gynffon y ceffyl, yn unol â'r cyfarwyddiadau
 - cael eglurhad pan nad yw'r cyfarwyddiadau'n glir
 - cyfathrebu gydag eraill a chynnal gwaith tîm effeithiol
 - cynnal a glanhau a thacluso'r ardal waith
 - cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
 - dewis ardal waith ac offer addas
 - sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen a pherygl i chi eich hun ac i eraill
 - technegau addas i atal ceffyl wrth blethu myngau a thwtio
 - pryd y dylid plethu a phryd na ddylid plethu
 - sut i blethu mwng ceffylau
 - pryd mae angen twtio a sut i dwtio
 - sut i dynnu mwng a phryd y mae hyn yn briodol
 - pam y mae'n bwysig cael ardal waith lân a thaclus
 - peryglon i geffylau, chi eich hun ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
 - eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol.
 
Cwmpas/ystod
Plethu myngau a thwtio ceffylau fel y bo'n briodol:
- gosod mwng
 - plethu mwng
 - tynnu mwng (dewisol – yn unol â gofynion yr iard)
 - twtio cynffon
 - tynnu cynffon (dewisol – yn unol â gofynion yr iard)
 - twtio llwybr neu fwlch ffrwyn (dewisol – yn unol â gofynion yr iard)
 - twtio plu
 - twtio clustiau
 - twtio gên
 
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Lantra
        
    
URN gwreiddiol
        LANEq206
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau        
    
Cod SOC
Geiriau Allweddol
            ceffyl; ceffylau; mwng; plethu