Cymhwyso, gosod a thynnu rhwymau a charthenni ceffylau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cymhwyso, gosod a thynnu dillad ceffylau a allai gynnwys rhwymau teithio, stabl, ymarfer a chynffon. Mae hefyd yn cynnwys cymhwyso, gosod a thynnu carthenni ceffylau.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- dewis, cymhwyso a gosod rhwymau ceffylau addas gyda chlustogau amddiffynnol, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- dewis, cymhwyso a gosod rhwymau cynffon ceffylau, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gwirio esmwythdra a diogelwch rhwymau ceffylau er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben
- tynnu, rholio a storio rhwymau ceffylau
- dewis, cymhwyso a gosod carthenni ceffylau addas yn unol â'r cyfarwyddiadau
- adnabod a thynnu unrhyw garthenni neu rwymau sydd wedi eu gosod yn wael yn ddiogel ac yn gywir
- tynnu carthenni ceffylau, eu plygu a'u storio, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- y rhesymau dros gymhwyso a gosod rhwymau stabl, teithio, ymarfer neu gynffon ceffylau
- peryglon rhwymo anniogel
- y mathau gwahanol o garthenni ceffylau a'u cymhwyso ar gyfer defnydd o dan do ac awyr agored
- egwyddorion gosod a mesur carthenni ceffylau yn cynnwys strapiau coesau
- canlyniadau carthenni ceffylau wedi eu gosod yn wael
- pwysigrwydd glanhau carthenni a rhwymau ceffylau a'u storio mewn cyflwr da
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Mae'n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth perfformiad ar gyfer gosod a thynnu:
• rhwymau coesau
• rhwymau cynffon
• amrywiaeth o garthenni dan do ac awyr agored
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhwymau ceffylau:
• teithio
• stabl
• ymarfer
• cynffon