Atal ceffylau gan ddefnyddio dulliau penodedig

URN: LANEq204
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud ag atal ceffylau gan ddefnyddio dulliau penodedig fel dal coes i fyny, defnyddio coler pen, ffrwyn neu ddull arall.  Gallech fod yn atal y ceffyl er mwyn ei archwilio neu ar gyfer tasgau arferol.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl, a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  3. atal ceffylau gan ddefnyddio dulliau a nodir gan y goruchwylydd
  4. cadw rheolaeth dros y ceffyl trwy gydol y broses
  5. rhyddhau'r ceffyl o'r atalfa yn ôl cyfarwyddyd y goruchwylydd
  6. cael eglurhad pan nad yw'r cyfarwyddiadau'n glir
  7. cyfathrebu'n effeithiol gyda'r rheiny sy'n gweithio gyda'r ceffyl wrth ei atal
  8. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddewis, defnyddio a gofalu am  offer amddiffynnol personol
  2. sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  3. y rhesymau pam y mae angen atal ceffylau
  4. dulliau ac offer a ddefnyddir i atal ceffylau, a phryd i'w defnyddio
  5. sut i ddweud a yw'r ceffyl o dan straen wrth gael ei atal a'r camau i'w cymryd
  6. pryd i gael cymorth wrth atal ceffyl
  7. pwysigrwydd cyfathrebu gyda'r person sy'n gweithio gyda'r ceffyl tra'i fod yn cael ei atal
  8. peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y gellir lleihau'r peryglon hyn
  9. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

​Defnyddio tri o'r dulliau neu offer canlynol i atal ceffyl:
•    dal coes i fyny
•    pinsio'r croen ar y gwddf
•    ffrwyn
•    coler pen
•    penffust
•    chifney
•    plwc
•    llonyddu


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq204

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; ymdrin; atal; arwain; dal; harnais; ffrwyn; coler