Gofalu am iechyd a lles ceffylau a’u monitro fel mater o drefn

URN: LANEq203
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gofalu am iechyd a lles ceffylau a'u monitro fel mater o drefn. Mae'n cynnwys monitro cyflwr corfforol ac ymddygiad ceffylau fel mater o drefn, adnabod arwyddion salwch a chloffni, nyrsio ceffylau sâl a darparu triniaethau arferol.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. gofalu am geffylau fel mater o drefn mewn ffordd sydd yn gwella eu hiechyd a'u lles
  3. monitro iechyd a lles, cyflwr corfforol ac ymddygiad ceffylau yn rheolaidd, a hysbysu'r person priodol am yr hyn a arsylwir
  4. cynnal mesurau penodol i hybu iechyd a lles ceffylau, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  5. cael eglurhad pan nad yw'r cyfarwyddiadau'n glir
  6. cynorthwyo arbenigwyr i ofalu am geffylau
  7. arsylwi ceffylau ar ôl i fesurau penodol gael eu sefydlu a hysbysu'r person priodol ar unwaith am eu cyflwr, ar lafar neu'n ysgrifenedig
  8. darparu gwybodaeth glir a chywir at ddibenion cofnodi
  9. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
  10. cynnal lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r cyfarwyddiadau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. sut i fonitro iechyd a lles anifeiliaid ac adnabod arwyddion o iechyd da a salwch
  3. sut i adnabod argyfwng o ran iechyd ceffyl a phryd i alw goruchwylydd
  4. sut i ddarparu mesurau ataliol fel mater o drefn yn cynnwys rheoli parasitiaid
  5. sut i adnabod ceffyl cloff a chynnal triniaethau sylfaenol
  6. sut i adnabod a thrin mân anhwylderau
  7. sut i adnabod dysychu mewn ceffylau
  8. anatomeg a ffisioleg sylfaenol ceffyl, yn cynnwys y systemau traul ac ysgerbydol
  9. pryderon cyffredinol yn ymwneud â cheffylau
  10. cyfyngiadau eich cyfrifoldeb a phwy y dylid eu hysbysu ynghylch anawsterau
  11. peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill, a sut y gellir lleihau'r rhain
  12. y cofnodion y mae angen eu cynnal wrth ofalu am iechyd a lles ceffylau a'u monitro
  13. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
  14. pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch i les ceffylau, a sut y gellir cyflawni hyn.

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mân anhwylderau fel:

  • chwydd cenglau

  • sodlau wedi hollti

Triniaethau sylfaenol ar gyfer ceffylau cloff fel:

  • chwistrellu oer
  • ymolchi

Arbenigwyr:

  • milfeddyg
  • technegydd deintyddol ceffylau
  • gof/torrwr carnau

Mesurau ataliol:

  • cael gwared â llyngyr
  • brechu
  • gofal traed

Pryderon lles cyffredinol:

  • clefydau
  • anabledd
  • plâu
  • trawma

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq203

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; cloffni; iechyd a lles anifeiliaid