Darparu porthiant a dŵr i geffylau
URN: LANEq202
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu porthiant a dŵr i geffylau.
Bydd angen i chi fwydo dwysfwydydd a brasfwyd i ystod o geffylau mewn stablau a chaeau.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am y cyfrifoldebau a'r dulliau gwaith.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- paratoi dognau bwyd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cael eglurhad pan nad yw'r cyfarwyddiadau'n glir
- rhoi porthiant a dwr i geffylau, yn y lle gofynnol, gan ddefnyddio'r dulliau priodol
- nodi mathau o borthiant ac asesu eu hansawdd
- hysbysu'r person priodol ynghylch unrhyw newidiadau yn arferion bwydo ac yfed ceffylau, ar lafar neu yn ysgrifenedig
- cynnal a chadw'r offer fel ei fod yn addas i gael ei ddefnyddio, a'i storio'n ddiogel
- gwaredu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir
- cynnal eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
- cyfathrebu gydag eraill a chynnal gwaith tîm yn affeithiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddefnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i adnabod porthiant ac ansawdd porthiant, a sut i baratoi dognau
- y mathau gwahanol o borthiant a dwysfwyd sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin
- y gwahaniaethau rhwng bwydo ceffyl unigol a grwpiau o geffylau
- y gwahaniaethau rhwng bwydo ceffylau mewn stablau a cheffylau ar y cae
- sut i waredu porthiant gwastraff a phecynnau
- y ffordd gywir o storio a defnyddio offer a bwydydd
- arwyddion ac effeithiau halogiad gan gnofilod a'r camau priodol i'w cymryd
- rheolau ymarfer bwydo a rhoi dŵr da
- sut i adnabod dysychu mewn ceffylau a'r camau i'w cymryd
- beth i'w wneud os oes newidiadau yn ymddygiad bwydo ac yfed y ceffyl, ar lafar neu yn ysgrifenedig
- ymreolaeth a swyddogaeth sylfaenol y system dreulio
- y peryglon i geffylau, chi eich hun ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Bwydo ceffylau mewn amgylcheddau gwahanol:
- stabl
- cae
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae gwastraff yn cynnwys:
bwyd dros ben
gwellt
- cortyn
- pecynnau eraill
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq202
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffyl; ceffylau; bwyd; dŵr; stabl; iard