Glanhau, paratoi a chynnal a chadw stablau ar gyfer ceffylau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â glanhau, paratoi a chynnal a chadw stablau ar gyfer ceffylau. Bydd angen i chi hefyd gynnal amodau stabl sydd yn addas ar gyfer y ceffyl, yn cynnwys awyru a golau. Caiff y gwaith hwn ei wneud i sicrhau bod y stabl yn darparu llety diogel ac addas ar gyfer ceffylau.
Bydd angen i chi weithio gydag amrywiaeth o geffylau a mathau gwahanol o ddeunydd gwely sydd yn addas ar gyfer ceffylau.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- glanhau a pharatoi'r stablau yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gwirio a chynnal a chadw amgylchedd y stabl er mwyn sicrhau diogelwch a lles y ceffyl
- darparu deunydd gwely addas ar gyfer y ceffylau sy'n cael eu rhoi mewn stabl
- gwirio bod dwr a bwyd ar gael ac ymdrin ag unrhyw broblemau o fewn lefel eich cyfrifoldeb
- cyflwyno ceffylau i'r stabl yn ddiogel yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gwaredu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir
- dychwelyd offer i'r ardal ddynodedig
- cael eglurhad os na fydd y cyfarwyddiadau'n glir
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
- cyfathrebu gydag eraill a gweithio'n affeithiol fel tîm
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- y mathau o stablau a gosodiadau stabl sydd yn addas ar gyfer y ceffylau yr ydych yn gweithio gyda nhw
- y peryglon posibl a allai ddigwydd mewn stablau a sut y gellir lleihau'r rhain
- y trefniadau glanhau sy'n briodol i'r math o geffyl a'r stablau cysylltiedig
- dulliau addas o gyflwyno ceffylau i'r stabl
- sut i adnabod ac ymdrin â straen mewn ceffylau o fewn eich lefel cyfrifoldeb, wrth lanhau stablau
- yr amodau sydd yn hybu iechyd a lles ceffylau mewn stablau
- y mathau o ddeunydd gwely sydd ar gael a'u manteision a'u hanfanteision
- pwysigrwydd darparu dwr a bwyd a sut y dylid gwneud hyn
- sut i waredu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir
- pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch wrth lanhau, paratoi a chynnal a chadw stablau ar gyfer ceffylau
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Darparu dau o'r mathau canlynol o ddeunydd gwely:
- gwelt
- naddion
- papur
- matiau rwber
- dewis arall
Gwirio a chynnal a chadw'r amgylcheddau a'r amodau stabl canlynol:
- awyru
- golau
- addasrwydd ar gyfer y ceffyl unigol