Gosod a datgysylltu ceffylau harnais gan ddefnyddio cerbydau unigol sy’n cael eu tynnu gan geffylau, o dan oruchwyliaeth
URN: LANEq114
Sectorau Busnes (Cyfresi): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu gosod a datgysylltu ceffylau harnais gan ddefnyddio cerbydau unigol sy'n cael eu tynnu gan geffylau, o dan oruchwyliaeth.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud o dan gyfarwyddyd goruchwylydd. Gallai hyn fod yn oruchwyliaeth uniongyrchol neu gallai fod trwy roi cyfarwyddiadau a monitro gwaith.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- paratoi'r cerbyd unigol sy'n cael ei dynnu gan geffyl ar gyfer gosod, o dan oruchwyliaeth
- mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl a pherygl i chi ac i eraill
- cadw rheolaeth dros y ceffyl trwy gydol y broses
- arwain y ceffyl at y cerbyd, o dan oruchwyliaeth
- cysylltu harnais y ceffyl i'r cerbyd, o dan oruchwyliaeth
- cynorthwyo i gydbwyso cerbydau dwy olwyn
- mynd â'r ceffyl allan trwy ddatgysylltu'r harnais a gwthio'r cerbyd yn ôl o'r ceffyl ar ôl ei ddefnyddio
- bod yn ymwybodol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddefnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn ymwneud â gosod/datgysylltu ceffylau harnais gan ddefnyddio cerbydau unigol sy'n cael eu tynnu gan geffylau
- sut o leoli'r cerbyd sy'n cael ei dynnu gan geffyl ar gyfer gosod
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen arnynt a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- sut i gysylltu'r harnais i'r cerbyd wrth osod a datgysylltu'r harnais wrth ei dynnu allan
- sut i ddefnyddio'r offer priodol ar gyfer cerbyd unigol sy'n cael ei dynnu gan geffylau
- sut i gydbwyso cerbyd dwy olwyn sy'n cael ei dynnu gan geffyl
- pwysigrwydd peidio byth â thynnu'r ffrwyn tra bod y ceffyl yn dal rhwng y siafftiau
- sut i gadw rheolaeth dros y ceffyl tra'n gweithio
- eich cyfrifoldebau yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Swyddogaeth yr offer canlynol:
- band bol
- strapiau tindres, 'D' tindres, a gweddau tindres
- tyniadau ac atalwyr tyniadau
- siafftiau
- cambren
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq114
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffyl; ceffylau; harnais; cerbyd; band bol; strapiau tindres; siafftiau; cambren