Harneisio a diharneisio ceffylau i’w defnyddio, o dan oruchwyliaeth

URN: LANEq113
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu harneisio a diharneisio ceffylau i'w defnyddio, o dan oruchwyliaeth.  Mae'n cynnwys gallu nodi rhannau o'r harnais a chynorthwyo i'w roi ar y ceffyl yn ogystal â'i dynnu oddi ar y ceffyl.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud o dan gyfarwyddyd goruchwylydd. Gallai hyn fod yn oruchwyliaeth uniongyrchol neu gallai fod trwy roi cyfarwyddiadau a monitro gwaith.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl a pherygl i chi ac i eraill
  3. roi coler pen ar y ceffyl a chlymu'r ceffyl gan ddefnyddio cwlwm rhyddhau'n gyflym, yn unol â chyfarwyddiadau
  4. cadw rheolaeth dros y ceffyl tra'n gweithio
  5. dewis yr harnais cywir ar gyfer y ceffyl penodol, yn unol â chyfarwyddiadau
  6. rhoi'r harnais ar y ceffyl, o dan oruchwyliaeth
  7. diharneisio'r ceffyl ar ôl ei ddefnyddio, o dan oruchwyliaeth
  8. tacluso'r ardal ar ôl gwaith
  9. glanhau a storio'r harnais ar ôl ei ddefnyddio, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  10. gwaredu deunyddiau gwastraff yn ddiogel ac yn gywir
  11. bod yn ymwybodol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddefnyddio a gofalu am  offer amddiffynnol personol
  2. eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn harneisio a diharneisio ceffylau
  3. rhannau'r harnais
  4. sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen arnynt a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  5. sut i harneisio a diharneisio ceffylau
  6. sut i osod coler pen a chlymu ceffylau gan ddefnyddio cwlwm rhyddhau'n gyflym
  7. sut i gadw rheolaeth dros y ceffyl tra'n gweithio
  8. pwysigrwydd dewis yr harnais cywir ar gyfer y ceffyl penodol, yn unol â chyfarwyddiadau
  9. pwysigrwydd rhoi'r harnais mewn safle priodol tra'n harneisio a diharneisio'r ceffyl
  10. pwysigrwydd glanhau a storio'r harnais ar ôl ei ddefnyddio
  11. sut i dacluso'r ardal ar ôl gwaith
  12. y dulliau cywir o waredu gwastraff
  13. eich cyfrifoldebau yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq113

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; harneisio; diharneisio