Glanhau a pharatoi cerbydau neu offer amaethyddol sy’n cael eu tynnu gan geffylau i’w defnyddio, o dan oruchwyliaeth

URN: LANEq112
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu glanhau a pharatoi cerbydau neu offer amaethyddol sy'n cael eu tynnu gan geffylau i'w defnyddio, o dan oruchwyliaeth.

Mae'n cynnwys gallu golchi, sgleinio ac iro rhannau dethol o'r cerbyd, yn unol â chyfarwyddiadau, a chynorthwyo i symud cerbydau ac offer sy'n cael eu tynnu gan geffylau er mwyn eu glanhau, eu defnyddio a'u storio. Mae hefyd yn cynnwys gallu nodi rhannau sylfaenol o'r cerbyd neu'r offer a storio cerbydau ac offer.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud o dan gyfarwyddyd goruchwylydd. Gallai hyn fod yn oruchwyliaeth uniongyrchol neu gallai fod trwy roi cyfarwyddiadau a monitro gwaith.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. paratoi'r ardal waith a gosod y deunyddiau glanhau gofynnol, o dan oruchwyliaeth
  3. defnyddio deunyddiau glanhau yn unol â chyfarwyddiadau
  4. glanhau a pharatoi cerbydau neu offer amaethyddol sy'n cael eu tynnu gan geffylau, o dan oruchwyliaeth
  5. cynorthwyo i symud cerbydau neu offer amaethyddol sy'n cael eu tynnu gan geffylau er mwyn eu glanhau, eu defnyddio neu eu storio
  6. storio cerbydau neu offer amaethyddol sy'n cael eu tynnu gan anifeiliaid, yn unol â chyfarwyddiadau
  7. gwaredu deunyddiau gwastraff yn ddiogel ac yn gywir
  8. bod yn ymwybodol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddefnyddio a gofalu am  offer amddiffynnol personol
  2. eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn glanhau cerbydau neu offer amaethyddol sy'n cael eu tynnu gan geffylau
  3. rhannau sylfaenol y cerbyd neu'r offeryn amaethyddol sy'n cael eu tynnu gan geffylau
  4. sut i lanhau cerbydau neu offer amaethyddol sy'n cael eu tynnu gan geffylau
  5. sut i symud cerbydau neu offer amaethyddol sy'n cael eu tynnu gan geffylau yn ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer eu glanhau, eu defnyddio neu eu storio
  6. pwysigrwydd sychu ac iro cerbydau neu offer amaethyddol sy'n cael eu tynnu gan geffylau yn gywir
  7. sut i ddefnyddio offer a deunyddiau glanhau yn gywir ac yn ddiogel
  8. y dulliau cywir ar gyfer gwaredu gwastraff
  9. eich cyfrifoldebau yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq112

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; cerbydau; offer amaethyddol; cerbydau