Glanhau a pharatoi harneisiau ceffylau i’w defnyddio, o dan oruchwyliaeth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â glanhau a pharatoi harneisiau ceffylau ar gyfer eu defnyddio, o dan oruchwyliaeth. Mae hyn yn berthnasol i Harneisiau Lledr Seisnig traddodiadol ac yn cynnwys gallu golchi ac ychwanegu sebon cyfrwy, a sgleinio rhannau dethol o'r harnais yn unol â chyfarwyddiadau. Mae'n cynnwys gallu adnabod rhannau sylfaenol o'r harnais a storio harnais yn unol â chyfarwyddiadau.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud o dan gyfarwyddyd goruchwylydd. Gallai hyn fod yn oruchwyliaeth uniongyrchol neu gallai fod trwy roi cyfarwyddiadau a monitro gwaith.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- paratoi'r ardal waith a gosod y deunyddiau glanhau gofynnol, o dan oruchwyliaeth
- defnyddio deunyddiau glanhau yn unol â chyfarwyddiadau
- glanhau a pharatoi harneisiau ceffylau, o dan oruchwyliaeth
- storio harneisiau yn unol â chyfarwyddiadau
- gwaredu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir
- bod yn ymwybodol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddefnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn glanhau a pharatoi harneisiau
- rhannau sylfaenol yr harnais
- sut i olchi'r harnais ac ychwanegu sebon cyfrwy
- pwysigrwydd peidio gwlychu'r harnais lledr ormod
- pwysigrwydd sychu'r harnais yn gywir
- sut i ddefnyddio deunyddiau glanhau yn gywir ac yn ddiogel
- sut i ddefnyddio bachau harnais ac offer arall yn gywir
- y dulliau cywir o waredu gwastraff
- eich cyfrifoldebau dros iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid