Mynd ar gefn a disgyn oddi ar gefn ceffylau addas, o dan oruchwyliaeth

URN: LANEq109
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â mynd ar gefn a disgyn oddi ar gefn ceffylau addas, o dan oruchwyliaeth. Bydd hyn yn cynnwys mynd ar gefn ceffyl o'r ddaear neu o esgynfaen.  Mae hefyd yn cynnwys addasu gwartholion a chenglau.  Mae'n berthnasol i'r rheiny sydd yn gysylltiedig ag ymarfer ceffylau addas fel mater o drefn mewn cyfrwy.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud o dan gyfarwyddyd goruchwylydd. Gallai hyn fod yn oruchwyliaeth uniongyrchol neu gallai fod trwy roi cyfarwyddiadau a monitro gwaith.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. mynd at y ceffyl a'i arwain i'r ardal ofynnol, yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl a pherygl i chi ac i eraill
  3. clymu a rhyddhau ceffylau yn unol â chyfarwyddiadau
  4. gwneud y gwiriadau diogelwch priodol ar harneisiau ac offer, o dan oruchwyliaeth
  5. mynd ar gefn a disgyn oddi ar gefn ceffylau addas yn gywir, o dan oruchwyliaeth
  6. bod yn ymwybodol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddefnyddio a gofalu am  offer amddiffynnol personol
  2. sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen arnynt a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  3. sut i ymdrin â cheffylau, eu clymu a'u rhyddhau yn ddiogel
  4. sut i adnabod anesmwythdra mewn ceffylau wrth fynd ar eu cefn a disgyn oddi ar eu cefn
  5. ystyriaethau diogelwch ar gyfer y ceffyl, chi eich hun ac eraill wrth fynd ar gefn a disgyn oddi ar gefn ceffylau
  6. y gwiriadau a'r paratoadau ar gyfer harneisiau ac offer cyn mynd ar gefn ceffyl, yn cynnwys gwirio'r cenglau, tynnu'r gwartholion i lawr cyn mynd ar gefn y ceffyl a rhoi'r ffrwynau dros ben y ceffyl
  7. effaith mynd ar gefn a disgyn oddi ar gefn y ceffyl i'r ceffyl
  8. eich cyfrifoldebau yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid.

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Offer amddiffynnol:

  • het
  • menig
  • esgidiau uchel
  • dillad addas ar gyfer y gweithgaredd

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq109

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; ceffylau; mynd ar gefn; disgyn oddi ar gefn; gwartholion; cenglau; cyfrwy; ffrwynau