Dal a rhyddhau ceffylau, o dan oruchwyliaeth

URN: LANEq108
Sectorau Busnes (Cyfresi): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dal a rhyddhau ceffylau o dan oruchwyliaeth.

Bydd hyn yn cynnwys symud ceffylau fel mater o drefn rhwng cae a stabl, yn cynnwys adnabod ceffylau unigol, a'r broses o'u dal, eu harwain a'u rhyddhau.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud o dan gyfarwyddyd goruchwylydd. Gallai hyn fod yn oruchwyliaeth uniongyrchol neu gallai fod trwy roi cyfarwyddiadau a monitro gwaith.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. gwirio'r ardal lle bydd y ceffyl yn cael ei ryddhau er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel ac adrodd i'r goruchwylydd
  3. hysbysu'r goruchwylydd ynghylch unrhyw broblemau all effeithio ar ddal y ceffyl
  4. mynd at y ceffyl sydd i gael ei symud a'i ddal mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl a pherygl i chi ac i eraill
  5. arwain y ceffyl i'r lleoliad gofynnol, o dan oruchwyliaeth
  6. rhyddhau a sefydlu'r ceffyl yn y lleoliad gofynnol, o dan oruchwyliaeth
  7. bod yn ymwybodol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddefnyddio a gofalu am  offer amddiffynnol personol
  2. beth i edrych amdano wrth wirio bod yr ardal lle caiff y ceffyl ei rhyddhau yn ddiogel
  3. sut i adnabod ceffylau yn cynnwys pwyntiau, lliwiau a marciau'r ceffyl
  4. sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen arnynt a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  5. y dulliau cywir a diogel o ddal ac arwain ceffylau a'r problemau a allai effeithio ar ddal neu arwain ceffylau
  6. sut i ryddhau a sefydlu ceffylau mewn lleoliad newydd
  7. seicoleg sylfaenol ceffylau yn cynnwys greddf greoedd, gweithredoedd ac adweithiau
  8. effaith eu hamgylched ar ymddygiad ceffylau
  9. eich cyfrifoldebau dros iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid.

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq108

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; dal; arwain; cerdded; rhyddhau