Glanhau harneisiau a dillad ceffylau, o dan oruchwyliaeth
URN: LANEq106
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â glanhau harneisiau a dillad ceffylau, o dan oruchwyliaeth. Gallai'r glanhau ddigwydd yn ddyddiol ac yn wythnosol ac mae'n cynnwys golchi a brwsio a gofalu am ledr a gwaith metel.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn unol â chyfarwyddyd goruchwylydd. Gallai hyn fod yn oruchwyliaeth uniongyrchol neu drwy roi cyfarwyddiadau a monitro gwaith.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- glanhau harneisiau a dillad ceffylau trwy wneud gwaith glanhau yn ddyddiol ac yn wythnosol, o dan oruchwyliaeth
- hysbysu'r goruchwylydd ynghylch namau a diffygion yn yr harneisiau a'r dillad ceffylau
- bod yn ymwybodol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddefnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- peryglon pwythau anniogel neu harneisiau wedi eu niweidio
- y rhesymau dros lanhau harneisiau a dillad ceffylau yn ddyddiol ac yn wythnosol
- sut i lanhau harneisiau a dillad ceffylau yn ddyddiol ac yn wythnosol fel mater o drefn
- y problemau y gall cnofilod eu hachosi wrth storio harneisiau a dillad ceffylau
- sut i storio harneisiau a dillad ceffylau
- eich cyfrifoldebau dros iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai'r mathau o lanhau gynnwys:
- golchi
- iro
- seboni
- brwsio
Namau a diffygion: e.e.
- pwythau anniogel
- biledi/boglynnau/byclau rhydd, wedi torri neu wedi rhydu
- cadwryddion/rhedwyr coll
- gwaith lledr wedi treulio, hollti neu dynnu
- rhwygiadau mewn deunydd
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq106
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffyl; ceffylau; harneisiau; dillad; glanhau