Gosod a thynnu carthenni ceffylau, o dan oruchwyliaeth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod a thynnu carthenni ceffylau o dan oruchwyliaeth. Mae'n cynnwys carthenni o fathau gwahanol, yn cynnwys carthenni stabl a throi allan gyda strapiau i'r coesau. Mae hefyd yn cynnwys nodi problemau sylfaenol yn ymwneud â charthenni ceffylau.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn unol â chyfarwyddyd goruchwylydd. Gallai hyn fod yn oruchwyliaeth uniongyrchol neu gallai fod trwy roi cyfarwyddiadau a monitro gwaith.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl a pherygl i chi ac i eraill
- clymu a rhyddhau'r ceffyl yn ddiogel
- gosod carthenni ceffylau o dan oruchwyliaeth
- tynnu, plygu a storio carthenni ceffylau, o dan oruchwyliaeth
- hysbysu'r goruchwylydd ynghylch unrhyw broblemau gyda'r carthenni
- addasu'r carthenni yn unol â'r cyfarwyddiadau
- bod yn ymwybodol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddefnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen arnynt a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- sut i ymdrin â cheffylau, eu clymu a'u rhyddhau yn ddiogel
- y peryglon posibl i geffylau pan fyddant yn gwisgo carthenni stabl a throi allan gyda strapiau coesau/llinynnau rhimyn
- y rhesymau dros sicrhau bod y carthenni wedi eu gosod yn gywir
- y weithdrefn i'w dilyn os yw'r carthenni'n llithro
- sut i osod a thynnu carthenni ceffylau
- sut i adnabod carthenni sydd mewn cyflwr da ac mewn cyflwr gwael
- sut i blygu a storio carthenni
- y mathau o anawsterau a all ddigwydd
- y rhagofalon diogelwch i'w cymryd wrth osod a thynnu carthenni ceffylau
- eich cyfrifoldebau yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid.
Cwmpas/ystod
Gosod a thynnu'r carthenni ceffylau canlynol:
carthen waelod (os caiff ei defnyddio)
carthenni uchaf
- carthenni stabl a throi allan gyda strapiau coesau/llinynnau rhimyn
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai problemau gyda charthenni ceffylau gynnwys:
- niwed i'r garthen
- anhawster yn gosod a thynnu'r garthen
- problemau yn gosod y garthen wrth ei gwisgo