Gosod a thynnu harneisiau ceffylau, o dan oruchwyliaeth

URN: LANEq104
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod a thynnu harneisiau ceffylau, o dan oruchwyliaeth.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud o dan gyfarwyddyd goruchwyliwr.  Gallai hyn fod yn oruchwyliaeth uniongyrchol neu gallai fod trwy ddarparu cyfarwyddiadau a monitro gwaith.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl a pherygl i chi ac i eraill
  3. rhoi'r harneisiau ar y ceffyl yn gywir, o dan oruchwyliaeth
  4. hysbysu'r goruchwylydd ynghylch unrhyw anawsterau
  5. tynnu'r harneisiau ar ôl eu defnyddio, o dan oruchwyliaeth, a'u storio yn y man gofynnol, yn unol â chyfarwyddiadau
  6. bod yn ymwybodol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddefnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen arnynt a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  3. sut i osod a thynnu harneisiau ceffylau yn gywir
  4. beth fydd yn digwydd os caiff yr harneisiau eu gosod yn anghywir
  5. sut i ddiogelu'r ceffyl os oes angen ei adael pan fydd yn gwisgo harneisiau
  6. y rhannau o'r ffrwynau a'r cyfrwy
  7. diben esgidiau ymarfer uchel
  8. y rhagofalon diogelwch i'w cymryd wrth osod a thynnu harneisiau
  9. y mathau o anawsterau a allai ddigwydd a phwysigrwydd hysbysu'r goruchwylydd amdanynt
  10. sut a ble i storio harneisiau
  11. eich cyfrifoldebau chi yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid.

Cwmpas/ystod

Gosod a thynnu harneisiau:

  • ffrwyn enfaog syml

  • ffrwyn gyda band trwyn penwar

  • esgidiau ymarfer uchel
  • cyfrwy
  • strap gwddf
  • numnah

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq101

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; harneisiau; esgidiau uchel; cyfrwy; ffrwyn enfaog; numnah; bandiau trwyn