Glanhau’r stablau a’r iard, o dan oruchwyliaeth

URN: LANEq103
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â glanhau'r stablau a'r iard, o dan oruchwyliaeth. Bydd glanhau yn cynnwys clirio, carthu a diheintio prif ardal yr iard, y domen dail, yr ystafell fwydo, yr ysgubor wellt/wair a'r ystafell harneisiau yn llawn.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud o dan gyfarwyddyd goruchwylydd. Gallai hyn fod yn oruchwyliaeth uniongyrchol neu gallai fod trwy ddarparu cyfarwyddiadau a monitro gwaith.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl a pherygl i chi ac i eraill
  3. clymu a datglymu'r ceffyl yn ddiogel
  4. paratoi'r offer a'r gwely, o dan oruchwyliaeth
  5. glanhau stablau a gwaredu gwastraff, o dan oruchwyliaeth
  6. adnewyddu a storio offer yn gywir ar ôl ei ddefnyddio
  7. gwirio bod y cyflenwad dwr ar gyfer y ceffyl yn lân
  8. cadw'r iard ac ardaloedd eraill yn lân a chynnal a chadw'r domen dail, o dan oruchwyliaeth
  9. glanhau draeniau arwyneb, o dan oruchwyliaeth, er mwyn sicrhau bod dwr dros ben yn llifo'n rhydd
  10. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r cyfarwyddiadau
  11. hysbysu'r goruchwyliwr ynghylch unrhyw broblemau'n ymwneud â glanhau'r stablau a'r iard
  12. bod yn ymwybodol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddefnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. gofynion sylfaenol lles ceffylau, yn cynnwys darparu porthiant a dwr
  3. y mathau a dyfnder y gwely a ddefnyddir mewn stablau i gynnal iechyd a lles y ceffyl
  4. sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen arnynt a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  5. sut i ymdrin â, clymu a datglymu ceffylau yn ddiogel
  6. y dulliau cywir ar gyfer gwaredu gwastraff
  7. y mathau, y defnydd cywir a'r ffordd gywir o storio offer a ddefnyddir i lanhau stablau ac ierdydd
  8. y defnydd cywir a'r ffordd gywir o storio deunydd glanhau a'r gofynion diogelwch ar gyfer hyn
  9. y mathau o beryglon a allai fod yn bresennol yn y stabl a'r iard
  10. pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch i les ceffylau
  11. y goblygiadau iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â draeniau a tomenni tail
  12. eich cyfrifoldebau yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch

Cwmpas/ystod

Stablau glân:

  • clirio allan
  • carthu
  • diheintio

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gall y mathau o wely a ddefnyddir mewn stablau gynnwys:

  • gwellt
  • naddion
  • papur
  • matiau rwber
  • deunyddiau eraill

Gall yr iard ac ardaloedd eraill gynnwys:

  • prif ardal yr iard
  • tomen dail
  • ystafell fwydo
  • gwellt/gwair
  • sgubor/ardal
  • ystafell harneisiau
  • draeniau arwyneb

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq103

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; stablau; iard; diheintio; carthu