Bwydo a rhoi dŵr i geffylau, o dan oruchwyliaeth

URN: LANEq102
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â bwydo a rhoi dŵr i geffylau o dan oruchwyliaeth ac mae'n cyfeirio at geffylau mewn stablau ac ar laswellt. Mae'n cynnwys darparu bwyd a dŵr i geffylau unigol a grwpiau o geffylau.

Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud o dan gyfarwyddyd goruchwylydd.  Gallai hyn fod yn oruchwyliaeth uniongyrchol neu gallai fod trwy ddarparu cyfarwyddiadau a monitro gwaith.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd yn unol â'r cyfarwyddiadau
  2. mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl a pherygl i chi ac i eraill
  3. bwydo'r ceffylau yn y lle cywir, o dan oruchwyliaeth
  4. darparu dwr i'r ceffylau gan ddefnyddio'r ffynonellau, system a'r meintiau cywir, o dan oruchwyliaeth
  5. hysbysu'r goruchwylydd ynghylch unrhyw newidiadau i arferion bwyta ac yfed y ceffylau
  6. glanhau ac adnewyddu offer bwydo a rhoi dwr, gan sicrhau ei fod yn addas i'w ddefnyddio
  7. gwaredu gwastraff bwydo yn ddiogel ac yn gywir
  8. bod yn ymwybodol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddefnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. y dulliau o fwydo a rhoi dwr i geffylau trwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys ceffylau mewn stablau a cheffylau ar laswellt
  3. y mathau o fwyd yn cynnwys porthiant a dwysfwyd
  4. arferion bwydo arferol y ceffylau yn eich gofal
  5. y mathau o newidiadau yn arferion bwydo ceffylau a allai ddigwydd, a pham y mae'n bwysig hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau
  6. sut i ddarllen siart fwydo
  7. sut i bwyso rhwyd wair
  8. sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen arnynt a pherygl i chi eich hun ac i eraill
  9. sut y dylid glanhau, cynnal a chadw a storio offer
  10. y gofynion hylendid ar gyfer ceffylau, chi eich hun ac eraill
  11. y dulliau cywir o waredu gwastraff
  12. eich cyfrifoldebau yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch

Cwmpas/ystod

Bwydo a rhoi dŵr i:

  • geffylau mewn stablau
  • ceffylau ar laswellt
  • ceffylau unigol
  • grwpiau o geffylau

Mathau o fwyd:

  • porthiant
  • dwysfwyd

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq102

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; bwyd; dŵr; maeth; glaswellt; gwair; porthiant