Glanhau a thrin ceffylau, o dan oruchwyliaeth
URN: LANEq101
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo i lanhau a thrin ceffylau yn rheolaidd. Gellir gwneud hyn cyn neu ar ôl ymarfer corff neu ar adegau eraill, fel y bo angen.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud o dan gyfarwyddyd goruchwylydd. Gallai hyn fod yn oruchwyliaeth uniongyrchol neu gallai fod trwy roi cyfarwyddiadau a monitro gwaith.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- paratoi'r ardal waith, o dan oruchwyliaeth
- mynd at y ceffyl yn unol â'r cyfarwyddiadau ac mewn ffordd sy'n lleihau straen ar y ceffyl a pherygl i chi ac i eraill
- cadw rheolaeth dros y ceffyl tra'n glanhau a thrin
- dewis offer yn unol â'r cyfarwyddiadau
- glanhau traed a choesau'r ceffyl, o dan oruchwyliaeth
- glanhau mwng a chynffon y ceffyl, o dan oruchwyliaeth
- golchi'r ceffyl â sbwnj, o dan oruchwyliaeth
- trin y ceffyl o dan oruchwyliaeth gan ddefnyddio offer priodol
- hysbysu'r goruchwylydd ynghylch unrhyw bryderon yn ymwneud â chyflwr y ceffyl, ei draed neu ei esgidiau
- glanhau'r offer trin a'i storio'n gywir ar ôl ei ddefnyddio
- gwaredu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir
- bod yn ymwybodol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddefnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn ymwneud â glanhau a thrin ceffylau a pham y mae angen trin ceffylau
- sut i fynd at geffylau mewn ffordd briodol er mwyn lleihau straen arnynt a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- y dulliau a ddefnyddir i gadw rheolaeth dros y ceffyl tra'n glanhau ac yn trin
- y mathau o offer glanhau a thrin a ddefnyddir yn gyffredin
- sut i ddefnyddio deunyddiau glanhau yn gywir ac yn ddiogel
- y technegau a'r gofynion trin gwahanol a phryd i'w defnyddio
- pwysigrwydd sychu coesau'r ceffyl ar ôl golchi
- sut i ddefnyddio, glanhau a storio offer trin
- sut i wirio cyflwr y ceffyl, ei draed neu ei esgidiau a pham y mae hyn yn bwysig
- y dulliau cywir ar gyfer gwaredu gwastraff
- eich cyfrifoldebau yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid.
Cwmpas/ystod
Trin:
trin ceffylau er mwyn paratoi ar gyfer ymarfer corff
trin ceffylau ar ôl ymarfer corff
- trin yn drwyadl
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq101
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffyl; ceffylau; trin; gofal; lles; glanhau