Monitro ac adrodd ar newid amgylcheddol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnws monitro ac adrodd ar newid amgylcheddol. Mae'n cynnwys datblygu a defnyddio systemau i fonitro newid amgylcheddol a dehongli ac adrodd ar y canlyniadau er mwyn gallu gweithredu yn y dyfodol.
Mae'r term "monitro" yn cael dehongliad eang yma – yn cynnwys y monitro anffurfiol sydd yn digwydd yn ystod gweithrediadau o ddydd i ddydd yn ogystal â'r monitro mwy ffurfiol o agweddau penodol o'r amgylchedd.
Rydych yn debygol o fod yn monitro dangosyddion allai ymwneud â newidiadau yng nghyflwr yr amgylchedd, er enghraifft, twf llystyfiant mewn ardal sydd newydd gael ei chau i mewn, cyfradd erydiad nodwedd arfordirol penodol, dirywiad cân yr adar ar adegau samplu penodol, neu newidiadau ym mhoblogaeth anifeiliaid di-asgwrn-cefn mewn nant o ganlyniad i lygredd. Gallai dangosyddion hefyd ymwneud ag effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd polisïau, cynlluniau a'u gweithredu.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon ar gyfer y cyflogeion a'r gwirfoddolwyr hynny sy'n gyfrifol am fonitro ac adrodd ar newid amgylcheddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis dangosyddion ar gyfer monitro newid amgylcheddol, sy'n debygol o fodloni'r amcanion gofynnol ar gyfer y gweithgaredd monitro
- sicrhau bod eich dangosyddion dethol yn fesuradwy a'u bod wedi'u disgrifio'n glir
- datblygu systemau ar gyfer monitro ac adrodd ar newid amgylcheddol, yn unol â'r amcanion, y costau a'r manylebau amser, â'r gofynion eraill eich sefydliad
- creu canllawiau ar gyfer defnyddio systemau monitro sydd yn hawdd i'w deall ac ar gael i bob defnyddiwr
- cadarnhau bod gweithgareddau monitro'n cael eu gwneud yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- asesu'r systemau monitro yn rheolaidd a chynnig unrhyw addasiadau
- cofnodi'r holl ddata monitro yn gywir, yn gynhwysfawr ac ar fformat ac iaith a nodir gan y system fonitro
- defyddio'r holl wybodaeth berthnasol, gyfredol sydd ar gael wrth ddehongli data monitro
- creu adroddiadau ar newid amgylcheddol ar fformat, arddull ac iaith sydd yn helpu i wneud penderfyniadau ac sydd yn cydymffurfio â gweithdrefnau eich sefydliad
- cadarnhau bod eich adroddiadau yn berthnasol, yn gywir ac yn gryno ac wedi'u cefnogi gyda chofnodion y data crai
gwneud eich casgliadau a'ch argymhellion ar gyfer gweithredu yn amlwg yn yr adroddiad monitro
cael adborth gan dderbynwyr yr adroddiad
- cadarnhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn unol â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd datblygu a defnyddio systemau i fonitro newid amgylcheddol
- pwysigrwydd cysondeb wrth fonitro newid amgylcheddol
- y dulliau o nodi dangosyddion perthnasol ar gyfer monitro newid amgylcheddol
- egwyddorion monitro yn erbyn dangosyddion
- ffynonellau data a gwybodaeth ymchwil i fonitro newid amgylcheddol
- ble a sut i gael data a gwybodaeth ychwanegol berthnasol
- pa unigolion a sefydliadau i ymgynghori â nhw wrth ddewis a chytuno ar ddangosyddion
- y mathau o systemau ar gyfer monitro newid amgylcheddol a sut i'w defnyddio
- y gofynion sefydliadol mewn perthynas â'r systemau monitro sy'n cael eu mabwysiadu
- y dulliau o gyfathrebu canllawiau ar fformat sydd yn addas ar gyfer defnyddwyr
- y mathau o newidiadau allai ddigwydd yn yr amgylchedd ac achosion y newidiadau hyn
- yr angen i adolygu'r systemau monitro a'r ffordd orau o gyflawni hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- y technegau ar gyfer cofnodi data ar newid amgylcheddol
- y ffyrdd y gall cofnodion amrywio yn ôl natur ac amcanion y gweithgaredd monitro
- y ffynonellau gwybodaeth sy'n berthnasol i'r dehongliad o fonitro data
- y mathau o dystiolaeth ategol y gellir eu defnyddio
- y ffyrdd o gyflwyno ac adrodd ar ganlyniadau gweithgareddau monitro a'r rhesymau dros ddewis ffyrdd penodol o gyflwyno data
- y ffyrdd y dylai ffurf, arddull ac iaith adroddiad amrywio yn unol â'r derbynwyr gwahanol
- y dulliau o gael a thrin adborth gan dderbynwyr adroddiad
- y ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cysondeb: e.e. yr un fethodoleg, pwyntiau arolygu, lleoliadau, amserau ac ati
Gallai monitro gynnwys:
- amgylcheddau daearol, dŵr croyw a morol
- bywyd gwyllt a chynefinoedd bywyd gwyllt
- rheoli cynefinoedd yn effeithiol
- effaith ymwelwyr ac eraill ar dirweddau a bywyd gwyllt
- rhwydwaith mynediad
- lefelau/llif dŵr
- amodau amgylcheddol
- effeithiau newid hinsawdd
- cynnydd tuag at dargedau newid hinsawdd