Adnabod rhywogaethau

URN: LANEnC8
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys adnabod rhywogaethau mewn amgylcheddau daearol, dŵr croyw a morol. Gellir ei gymhwyso i fflora a ffawna (yn cynnwys rhywogaethau wedi'u diogelu, rhai nad ydynt yn gynhenid a rhai gwenwynig) ac ar draws ystod eang o leoliadau. Mae adnabod rhywogaethau yn bwysig i gadwraeth bioamrywiaeth ac i gynhyrchu economaidd. Mae'r safon yn ategu'r rheiny ar gyfer arolygon.

Mae disgwyl i chi weithio mewn ffordd ddiogel ac effeithiol, gan gydnabod pryd mae angen cyngor neu wybodaeth bellach, a hefyd i gael y caniatâd, cydsyniadau neu'r trwyddedau angenrheidiol ar gyfer mynediad a gwaith rhywogaethau.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn rhoi cyfrif am ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r safon ar gyfer ystod eang o staff, yn cynnwys rhodwyr, ciperiaid, ecolegwyr, tirlunwyr, cynnal a chadw tir, gweithwyr adeiladu, ffermwyr, tyfwyr, a chynghorwyr proffesiynol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. paratoi'r offer a'r adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer adnabod rhywogaethau amrywiol
  2. cadarnhau bod gennych fynediad at ffynonellau gwybodaeth perthnasol i gynorthwyo adnabod
  3. egluro unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau perthnasol sydd wedi'u sefydlu ar y safle
  4. cadarnhau bod gennych unrhyw ganiatâd, cydsyniadau neu drwyddedau gofynnol
  5. defnyddio lleoliad daearyddol y safle i helpu i nodi rhywogaethau sy'n debygol o gael eu canfod, gan ystyried yr adeg o'r flwyddyn
  6. sefydlu'r defnydd presennol neu flaenorol o'r safle i helpu i nodi'r rhywogaethau sy'n debygol o gael eu canfod
  7. nodi'r mathau o gynefin i'ch helpu i nodi'r rhywogaethau sy'n debygol o gael eu canfod
  8. nodi rhywogaethau, traciau, llwybrau neu arwyddion dangosol
  9. ymdrin ag unrhyw rywogaeth yn ddiogel mewn ffordd briodol ac yn unol â'r gofynion deddfwriaethol perthnasol
  10. arsylwi'r mesurau bioddiogelwch angenrheidiol
  11. cofnodi manylion i gynorthwyo adnabod rhywogaethau e.e. ffotograffau, nodiadau, mesuriadau
  12. defnyddio ffynonellau gwybodaeth perthnasol i nodi ac enwi rhywogaethau
  13. cydnabod terfynau eich awdurod ac arbenigedd a chael cyngor neu gadarnhau lle y bo'n angenrheidiol
  14. gwneud gweithgareddau mewn ffordd sy'n amharu cyn lleied â phosibl ar y cynefin a'r amgylchedd cyfagos
  15. dilyn protocolau, codau ymddygiad a'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i gasglu data bywyd gwyllt
  16. gwneud yr holl weithgareddau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr offer a'r adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer adnabod rhywogaethau
  2. y ffynonellau gwybodaeth posibl y gellir eu defnyddio i gynorthwyo adnabod a sut i ddefnyddio'r rhain
  3. goblygiadau cyfyngiadau neu ddynodiadau perthnasol i'r safle sydd ar waith
  4. pwysigrwydd cael y caniatâd, cydsyniadau neu'r trwyddedau perthnasol
  5. sut gall lleoliad daearyddol, amser o'r flwyddyn a defnydd presennol neu flaenorol o'r safle helpu i ddynodi'r rhywogaethau sy'n debygol o gael eu canfod
  6. y rhywogaethau sy'n debygol o gael eu canfod mewn mathau gwahanol o gynefin, eu traciau, llwybrau a'u harwyddion
  7. y peryglon sydd yn gysylltiedig ag ymdrin â rhywogaethau, arferion gwaith diogel ac unrhyw ofynion cyfreithiol
  8. pwysigrwydd bioddiogelwch a mesurau bioddiogelwch priodol ar gyfer y safle

  9. sut i gofnodi manylion perthnasol i gynorthwyo adnabod rhywogaethau

  10. terfynau eich awdurdod a'ch arbenigedd a'r ffynonellau cymorth perthnasol

  11. y canfyddiadau y dylid adrodd yn eu cylch a'r ffordd orau o wneud hyn
  12. effaith bosibl eich gweithgareddau ar y cynefin a'r amgylchedd cyfagos a sut i leihau'r rhain
  13. y protocolau, y codau ymddygiad a'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i gasglu data bywyd gwyllt
  14. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Traciau, Llwybrau ac Arwyddion

  • Defnyddir traciau, llwybrau ac arwyddion yn gyffredin i nodi neu gadarnhau presenoldeb anifeiliaid, yn arbennig mamaliaid, yn absenoldeb eu gweld yn gorfforol. Maent yn cynnwys olion traed, rhedfeydd, amharu ar gynefin, lloches (e.e. tyllau), anifeiliaid marw (yn cynnwys prae), synau, arogl, carthion a gweddillion ysgerbydol a'u ffynonellau (e.e. peledu tylluanod)

Mae'r rhywogaethau amrywiol yn cynnwys:

  • algâu
  • ffwng
  • planhigion, yn amrywio o fwsog "gradd is" a llysiau'r afu i borfeydd a choed
  • anifeiliaid di-asgwrn-cefn
  • ymlusgiaid ac amffibiaid
  • pysgod (morol, dŵr croyw a molysgiaid)
  • adar
  • anifeiliaid ag asgwrn cefn, yn cynnwys mamaliaid
  • rhywogaethau wedi'u diogelu
  • rhywogaethau ymledol nad ydynt yn gynhenid
  • chwyn gwenwynig

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEnC8

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad Parc, Ceidwad y Grîn, Garddwr, Gofalwr Tir, Tirluniwr, Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystâd, Swyddog Mynediad, Rheolwr Gwirfoddolwyr, Ecolegwyr, Swyddog Polisi Amgylcheddol

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

Rhywogaethau; adnabod; nodi; planhigion; anifeiliaid; rhywogaethau ymledol