Defnyddio data geo-ofodol mewn arolygon amgylcheddol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio data geo-ofodol mewn arolygon amgylcheddol. Mae'n cynnwys y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i ddefnyddio systemau digidol ar gyfer mapio a dadansoddi data gofodol yn ystod arolygon amgylcheddol.
Mae lleoliad maes yn defnyddio systemau mesur yn seiliedig ar loeren. Gall system ddelweddu ar loeren ac awyrennau synhwyro nodweddion wyneb y Ddaear o bell mewn ffordd sy'n barhaus yn ofodol. Mae trin a dehongli data gofodol yn dibynnu ar Ddylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) neu feddalwedd System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS). Mae'r safon hon yn gofyn am werthfawrogiad o'r technolegau sydd yn gysylltiedig â sgiliau maes wrth ddefnyddio systemau lleoli yn seiliedig ar loeren, dronau, ffynonellau delweddau a'r defnydd o feddalwedd berthnasol i brosesu a dehongli delweddau a data lleoliad arolwg maes. Gellir cymhwyso'r sgiliau hyn yn effeithiol ar lefelau cymharol syml i ddarparu offer o ddydd i ddydd ar gyfer ymarferwyr amgylcheddol. Dylid eu hystyried fel cymhorthion arferol i astudio, yn y bocs offer ynghyd â sgiliau fel dadansoddi data trwy ffotograffiaeth, prosesu geiriau neu ar daenlen.
Bydd angen gwybodaeth a dealltwriaeth arnoch o fodelau elipsoid (datwm) y Ddaear, y ffordd y mae mesuriadau safle onglog yn cael eu troi'n gyfesurynnau (xyz) Cartesaidd gan ddefnyddio systemau taflunio map, y systemau lleoli lloeren ryngwladol sydd ar gael a sut maent yn gweithio, ffynonellau delweddau wyneb tir a môr ac egwyddorion systemau mapio data digidol a dehongli'r math yma o ddata. O ran sgiliau maes, bydd angen eich bod yn gallu sefydlu arolwg pan fydd pwyntiau, trawsluniau a pholygonau yn cael eu mapio i lefelau cywirdeb priodol, gan ddangos gweithdrefnau diogelu data a rheoli ansawdd addas. Bydd cymhwysedd prosesu data yn cynnwys gweithio gyda set ddata safonol (yn cynnwys data maes yr ydych wedi'i gasglu, delweddau lloeren, mapiau sydd wedi'u cyhoeddi ar hyn o bryd a mapiau hanesyddol) gan ddefnyddio system CAD neu GIS yr ydych wedi'i dewis i greu cynnyrch dehongli penodol. Bydd angen i chi hefyd ddeall sut mae'r wybodaeth yma'n cael ei defnyddio'n gyffredin mewn arferion rheoli amgylcheddol.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am gynnal arolygon amgylcheddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cynllunio arolygon amgylcheddol gan ddefnyddio offer lleoli yn seiliedig ar loeren, gan ddefnyddio mapiau cyhoeddus, mapiau hanesyddol, delweddau lloeren a lluniau o'r awyr sydd ar gael
cynnal asesiadau risg cyn dechrau gweithgareddau arolwg
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- paratoi a defnyddio lleoli yn seiliedig ar loeren neu offer droniau i fodloni gofynion arolwg penodol o ran manwl-gywirdeb, dwysedd data a sicrwydd ansawdd.
- sefydlu meincnodau ar gyfer ailarolygu
- adrodd ac archifo setiau data yr ydych wedi'u caffael fel rhai lledred a hydred a chydfesurynnau Cartesaidd i ddau ddatum gwahanol
- caffael delweddau rhastr fydd yn llywio eich mapiau arolwg, a allai gynnwys delweddau lloeren neu o'r awyr, mapiau wedi'u cyhoeddi neu rai hanesyddol, neu unrhyw gyfuniad fydd o gymorth yn dehongli agweddau o'r data geo-ofodol yr ydych wedi'i gasglu
rhoi eich holl setiau data fector a rhastr i mewn i Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) neu feddalwedd Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a pharatoi mapiau haenog ar raddfeydd, estyniadau a chyfeiriadedd effeithiol, gyda ffeiliau metadata ategol sy'n disgrifio'r data
creu haenau map newydd yn seiliedig ar ddulliau llaw (tynnu llinellau, polygonau, testun), gofynodi a gridio ac amlinellu
creu mapiau cynnyrch ar gyfer ystod o fformatiau cyflwyno sy'n bodloni gofynion manyleb eich arolwg
cyfrannu at drafodaethau ar werth y wybodaeth yr ydych wedi'i chreu fel offeryn rheoli amgylcheddol a/neu ddehongli
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y datwm sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin
- tafluniadau map a'u cymhwysedd gwahanol i dasgiau mapio
- pwysigrwydd cynnal asesiadau risg cyn dechrau gweithgareddau arolwg
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- y defnydd o ddronau neu offer lleoli yn seiliedig ar loeren
- arfer da ac arferion sicrhau ansawdd ar gyfer arolygon gan ddefnyddio offer lleoli yn seiliedig ar loeren ar gyfer lleoli a/neu arweiniad
- y ffactorau sydd yn gallu effeithio ar fanwl-gywirdeb data maes
- manylebau a chaffaeliad delweddau lloeren ac o'r awyr
- sut i fewnforio ac allforio data gofodol gan ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) neu feddalwedd Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD)
- sut i olygu data gofodol gan ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) neu feddalwedd Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD)
- sut i derfynu a dehongli data gofodol gan ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) neu Ddylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD)
- cyfyngiadau a manteision arddulliau a fformatiau map penodol i gyfathrebu gwybodaeth geo-ofodol yn effeithiol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Datwm WGS84, OSGB, (systemau Ewropeaidd a rhai nad ydynt yn Ewropeaidd)
Mathau o ddata gofodol digidol: fector a rhastr, metadata
Ffactorau sydd yn gallu effeithio ar fanwl-gywirdeb data maes:
- effeithiau geometreg lloeren
- gwahaniaethau rhwng fflydoedd lloeren sydd ar gael yn fasnachol
- unigol
- dulliau gwahaniaethol a RTK
- y tywydd
Meddalwedd mapio: GIS (masnachol a rhadwedd cyffredin), CAD (masnachol a rhadwedd cyffredin)
Fformatiau cyflwyno map: cyhoeddi ar bapur, cyflwyniadau cyhoeddus, defnydd o'r we
Tafluniadau map UTM, OSGB, (conig a gwastad)
Prosesu data gofodol (GIS neu CAD): arferion rhoi data i mewn (metadata, data pwynt, geo-gyfeiriadu delwedd, mewnforio ac allforio rhwng systemau), creu mapiau gan ddefnyddio haenau, tynnu llun a dargopïo, testun, trin a dehongli (gridio, amlinellu, gofynodi, mapio thematig)
Delweddau lloeren ac o'r awyr: mathau orbit /amledd trosffordd, eglurdeb, bandiau optegol, radar
Mathau o offer lleoli yn seiliedig ar loeren: llaw, gwarbac, ar gerbyd/llong, micro (systemau olrhain), dulliau arwain syml, systemau arwain yn seiliedig ar fap electronig.
Manwl-gywirdeb mesur lleoliad/uchder yn seiliedig ar loeren: unigol, dulliau gwahaniaethol a RTK, amser real ac ôl-brosesu