Dadansoddi data o arolygon maes ac adrodd ar y canfyddiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys dadansoddi ac adrodd ar ganfyddiadau arolygon maes yn unol â chynllun yr arolwg a'r manylebau. Gallai hefyd fod yn gymwys ar gyfer canfyddiadau gwyliadwriaeth neu fonitro a gallai fod yn rhan o asesiad ehangach. Gallech fod wedi casglu'r data eich hun neu gallai fod wedi cael ei gasglu gan eraill. Gellir defnyddio'r canfyddiadau i hysbysu eraill ynghylch rheoli, creu, adfer neu drawsleoli cynefin.
Gall arolygon ymwneud â'r testunau canlynol: tirwedd a nodweddion morol; fflora a ffawna, yn cynnwys asesu poblogaeth rhywogaethau; math a chyflwr cynefin ac effaith bodau dynol ar yr amgylchedd. Bydd y rhan fwyaf o arolygon yn cynnwys ffynonellau data sylfaenol ac eilaidd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pawb sydd yn gysylltiedig â dadansoddi a dehongli data o waith arolwg maes. Mae'n gynyddol debygol o gynnwys dadansoddiadau data electronig e.e. System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod digon o ddata dilys a dibynadwy cyn dechrau'r dadansoddiad
- sicrhau bod y data wedi cael ei gasglu yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data bresennol, cynllun yr arolwg a'r manylebau
cadarnhau'r y dulliau dadansoddi data i gael eu defnyddio yn unol â manylebau'r arolwg
dadansoddi data arolwg maes gan ddefnyddio'r holl wybodaeth berthnasol a chyfredol sydd ar gael
- cyfiawnhau eich dehongliad o ddata arolwg maes gan ddefnyddio dadl resymol a thystiolaeth ategol
- gweithredu pan mae'r dadansoddiad o'r data yn datgelu problemau gyda'i ddigonoldeb, ei ddibynadwyedd neu ei ddilysrwydd
- creu canlyniadau a chasgliadau cywir, di-duedd
- gwneud argymhellion sydd yn realistig, yn berthnasol ac wedi'u diffinio'n glir
- cael adborth ar ddehongliadau'r arolwg cyn adrodd, lle bo angen
- creu adroddiad o'r canfyddiadau sydd yn gywir, yn gyflawn ac ar fformat sydd yn cydymffurfio â chynllun yr arolwg a'r manylebau
- cadarnhau bod eich adroddiad yn cynnwys y data ategol gofynnol yn unol â chynllun yr arolwg a'r manylebau
- cadarnhau bod eich adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth a chasgliadau mewn ffordd y bydd y derbynwyr yn ei ddeall
- gwneud yr adroddiad ar gael i'r bobl berthnasol o fewn y raddfa amser ofynnol yn unol â chynllun yr arolwg a'r manylebau
- cadarnhau bod y cyflwyniad yn addas ar gyfer y gynulleidfa, lle mae gofyniad i gyflwyno'r adroddiad
- ateb ceisiadau am eglurhad ac esboniad pellach o'r adroddiad yn glir ac yn gywir o fewn y graddfeydd amser penodedig
- cadw cyfrinachedd gwybodaeth yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data presennol, cynllun yr arolwg a'r manylebau a gofynion eich sefydliad
- cofnodi materion hawlfraint a hawliau eiddo deallusol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i drefnu data ar gyfer ei ddadansoddi
- sut i asesu digonolrwydd, dilysrwydd a dibynadwyedd data
- y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol ar gasglu data
- cyfyngiadau ffynonellau data gwahanol
- y camau i'w cymryd os oes problemau gyda digonolrwydd, dilysrwydd a dibynadwyedd
- y dulliau dadansoddi data i'w defnyddio yn unol â chynllun yr arolwg a'r manylebau
- y dulliau dadansoddi ansoddol a meintiol gwahanol a'u manteision a'u hanfanteision perthynol
- y technegau dadansoddi a gwerthuso sydd yn creu canlyniadau cywir a di-duedd
- cyfyngiadau dehongli a dulliau gwerthuso gwahanol
- arwyddocâd canlyniadau'r arolwg mewn perthynas â chanfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad
- y manylebau ar gyfer fformat yr adroddiad a'r data ategol gofynnol
- y graddfeydd amser pan mae'n rhaid i'r adrodd ddigwydd a'r rhesymau dros hyn
- y ffyrdd o adrodd a chyflwyno gwybodaeth mewn ffordd y bydd y derbynwyr yn ei ddeall e.e. graffiau, diagramau, lluniau
- goblygiadau cyfreithiol perthnasol canfyddiadau'r adroddiad
- pwysigrwydd cael adborth ar y dadansoddiad a'r dehongliad o ganfyddiadau'r arolwg cyn adrodd a chan bwy y dylid cael hwn
- y bobl berthnasol i dderbyn copïau o'r adroddiad
- pwy arall sydd angen eu hysbysu ynghylch y canfyddiadau e.e. Cynlluniau Gweithredu ar Fioamrywiaeth lleol, swyddfeydd cofnodion
- sut i gyflwyno'r adroddiad i gynulleidfa mewn ffordd addas, lle mae gofyniad i gyflwyno'r adroddiad
- y dulliau o gael a thrin adborth gan dderbynwyr yr adroddiad
- y ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol a phwysigrwydd cyfrinachedd a sensitifrwydd gwybodaeth
- pwysigrwydd moeseg proffesiynol wrth ddadansoddi, gwneud argymhellion ac adrodd ar ganfyddiadau arolygon maes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai y dulliau casglu data gynnwys rhai: ysgrifenedig, llafar, clywedol, electronig, gweledol
Gallai y dulliau dadansoddi data gynnwys defnyddio cyfrifiadau mathemategol fel cyfartaledd, ystod, gwyriad safonol, defnydd o fetrigau bioamrywiaeth, modelu, meddalwedd dadansoddi data
Arolwg: gweithgaredd untro i gasglu data at ddiben wedi'i ragnodi e.e. arolwg llinell sylfaen
Gwyliadwriaeth: ailadrodd arolwg gan ddatblygu darlun sydd yn gallu canfod newid ond nad yw'n ysgogi gweithredu
Monitro: ailadrodd arsylwadau gan ddatblygu darlun sydd yn gallu canfod newid ac ysgogi gweithredu
Ffynonellau data:
- sylfaenol
- eilaidd
Mathau o ddata:
- ansoddol
- meintiol
Mae canllawiau cenedlaethol a'r diwydiant ar gyfer arolygon yn cynnwys:
**Arolwg Cynefin Cyfnod Un Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol (NVC); arolygon Adar Bridio ac Adar Gwlypdir Ymddiriedolaeth Adareg Prydain; Canllawiau Arolygu Ystlumod; Cynllun Monitro Pili Palod y DU; Coridor Afonydd Asiantaeth yr Amgylchedd neu arolygon rhynglanw y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.