Cynnal arolygon maes
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal arolygon maes yn unol â chynllun arolwg. Gallai hefyd fod yn berthnasol i gynnal gwyliadwriaeth a monitro a gallai fod yn rhan o asesiad ehangach.
Gall arolygon maes fod ar y pynciau canlynol: tirlun a nodweddion morol; fflora a ffawna, yn cynnwys asesu poblogaeth rhywogaethau; math a chyflwr cynefin ac effaith bodau dynol ar yr amgylchedd. Bydd y rhan fwyaf o arolygon yn cynnwys ffynonellau data sylfaenol ac eilaidd.
Mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cael y caniatâd, cydsyniadau a'r trwyddedau gofynnol cyn cynnal arolygon.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pob aelod o staff cadwraeth amgylcheddol sydd yn agos gysylltiedig â gwaith arolygu ac sy'n gyfrifol am gasglu a chofnodi data o arolygon maes.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- egluro diben, cwmpas ac amcanion yr arolwg, y gwyliadwriaeth neu'r monitro a'r fanyleb ar gyfer casglu a chofnodi data
- egluro eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn yr arolwg a'ch perthynas ag eraill
- egluro unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau perthasol i'r safle sydd wedi'u sefydlu
- cadarnhau eich bod wedi cael unrhyw ganiatâd, cydsyniadau neu drwyddedau penodol ar gyfer mynediad i'r safle a gwaith casglu data maes ar rywogaethau
- defnyddio offer a deunyddiau arolygu yn ofalus ac yn gywir wrth gynnal arolygon maes
- gwneud yr holl waith arolygu yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
arsylwi mesurau bioddiogelwch tra'n cynnal arolygon maes
cynnal arolygon maes trwy gymhwyso'r technegau arolygu penodedig a sicrhau bod y data'n gywir i'r lefel sy'n ofynnol yn ôl manylebau'r arolwg
- cadarnhau bod y data sy'n cael ei gasglu yn bodloni â'r gofynion manyleb yr arolwg a'i fod yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn ddigonol
- gweithredu'n brydlon yn unol â chynllun yr arolwg, lle na ellir cael data
- cymryd y camau gofynnol pan fydd rhywogaethau wedi'u diogelu neu ymledol, nad ydynt yn gynhenid yn cael eu nodi
gofalu nad yw effeithiau eich gwaith a mynediad yn cael effaith niweidiol ar safle'r arolwg
adfer y safle i'r cyflwr gofynnol, sydd yn cyd-fynd â'r ardal gyfagos
- cyfathrebu gyda phartïon â diddordeb a'u hannog i ofyn cwestiynau neu gael esboniadau, a rhoi'r wybodaeth iddynt
- cofnodi holl ddata'r arolwg maes yn llawn, ar y fformat a nodir, ac adrodd o fewn y graddfeydd amser gofynnol yn unol â chynllun yr arolwg
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, cwmpas ac amcanion yr arolwg, gwyliadwriaeth neu'r monitro a'r gofynion ac gyfer casglu a chofnodi data
- eich cyfrifoldebau yn unol â gweithgaredd yr arolwg
goblygiadau cyfyngiadau neu ddynodiadau perthnasol i'r safle sydd wedi'u sefydlu
pwysigrwydd cael y caniatâd, cydsyniadau neu'r trwyddedau perthnasol ar gyfer mynediad i'r safle a chasglu data am rywogaethau
- pwysigrwydd rhoi prawf o awdurdod wrth gynnal arolwg maes
- pwysigrwydd yswiriant indemnedd proffesiynol ac atebolrwydd cyhoeddus
- yr offer a'r deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer yr arolwg, sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn gywir ac unrhyw rwystrau neu gyfyngiadau â'r ddeddfwriaethol perthnasol
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, â'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad, yn cynnwys â'r ddeddfwriaeth bywyd gwyllt a mynediad
- pwysigrwydd bioddiogelwch a'r mesurau bioddiogelwch gofynnol ar gyfer y safle
- perthnasedd nodweddion tirwedd, fflora a ffawna, mathau gwahanol o gynefin ac effaith bodau dynol ar yr amgylchedd, yn unol â chynllun yr arolwg
- pam mae methodolegau arolygu gwahanol yn cael eu defnyddio ar achlysuron gwahanol ac mewn safleoedd gwahanol a pham dylid eu gweithredu fel y nodir
- yr ystod o dechnegau arolwg maes sydd ar gael, eu manteision a'u hanfanteision ac egwyddorion eu defnydd
- ystyr data dilys a dibynadwy o ffynonellau posibl gwallau a bias wrth gasglu data
- y math o ddata allai fod yn berthnasol i'r arolwg ond sydd heb ei gynnwys yn y manylebau
y camau i'w cymryd lle na ellir cael data
y camau i'w cymryd pan fydd rhywogaethau wedi'u diogelu neu ymledol nad ydynt yn gynhenid yn cael eu nodi, y gofynion sefydliadol a chyfreithiol ar gyfer hyn a chanlyniadau posibl peidio â gweithredu
y ffyrdd y gallai cynnal arolygon maes effeithio ar gynefin, bywyd gwyllt neu dirwedd a sut i leihau hyn
y camau i'w cymryd os bydd niwed damweiniol neu amharu yn digwydd i gynefin, bywyd gwyll neu'r dirwedd
pwysigrwydd dilysu a chadarnhau adnabod rhywogaethau
- pwysigrwydd cyfathrebu gyda phartïon â diddordeb a rhoi'r wybodaeth iddynt wrth gynnal arolygon maes
- terfynau eich arbenigedd a ble i gael cyngor
- fformat a'r graddfeydd amser ar gyfer cofnodi data
- y ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai y dulliau casglu data gynnwys rhai: ysgrifenedig, llafar, clywedol, electronig, gweledol.
Enghreifftiau o arolygon maes:
Mae'r term "arolwg" yn agored i ddehongliad eang oherwydd ystod eang arolygon, yn cynnwys rhai ffisegol, biolegol a diwylliannol, sy'n cael eu gwneud mewn cyd-destunau gwahanol, gan ddefnyddio ystod o dechnegau. Mae'r rhestr ganlynol wrth roi'r canllaw i themâu arolygon ac isafswm y cymhlethdod fyddai'n briodol:
- arolygon bioamrywiaeth: presenoldeb neu helaethrwydd neu ddosbarthiad rhywogaeth benodol o blanhigyn neu anifail. Asesu poblogaeth rhywogaeth. Gweithio gyda mynegeion amrywiaeth.
- arolygon yn defnyddio systemau dosbarthu safonol a ddefnyddir mewn cadwraeth: er enghraifft, arolwg cynefin Cyfnod 1 Cyngor Cadwraeth Natur sy'n defnyddio adnabod y grwpiau o rywogaethau planhigion i alluogi dosbarthu cynefin daearol, fel mapio a chyfrif rhywogaethau dynodol ar gyfer coetir hynafol.
- arolygon pobl: er enghraifft, cyfrif nifer yr ymwelwyr sy'n defnyddio hawl tramwy neu lwybrau mynediad wedi'u hyrwyddo, traeth; cynnal cyfweliadau ymwelwyr neu werthuso cefnogaeth leol tuag at brosiect.
- arolygon o effaith ffermio/pysgota/gweithgareddau twristiaeth: fel mynegai pori ar rostir, niwed a achosir i dwyni arfordirol gan ymwelwyr, effeithiolrwydd "maglau beiciau modur" ar lwybr marchogaeth neu ddinistrio gwelyau morwellt wrth angori cychod.
- arolygon cynefin: sef amgylchedd ffisegol unrhyw gymuned, yn cynnwys ffactorau fel llystyfiant, daeareg, geomorffoleg, priddoedd, gwaddodion, topograffeg, tymheredd, gwynt, glaw, llif glaw, ansawdd dŵr, llanw a thonnau.
- arolygon halogi'r amgylchedd naturiol o ganlyniad i lygredd: gallai archwiliadau edrych ar raddau a dwysedd y newid cemegol i'r cynefin a'r effeithiau biolegol cysylltiedig.
- arolygon o statws yr ymdrech gadwriaethol: gallai enghreifftiau gynnwys mapio rhwydweithiau mynediad, cyflwr rhwydwaith llwybr troed a strwythurau ategol (arwyddion, rheiliau llaw, pwyntiau mynediad), nodweddion archeolegol neu lefel yr erydiad i lannau afonydd, twyni tywod a blaen traethau.
- arolygon o effeithiau newid hinsawdd: gallai gynnwys effeithiau ar fioamrywiaeth, amaethyddiaeth, y tywydd, lefelau dŵr, cynnydd tuag at dargedau newid hinsawdd.
Partïon â diddordeb:
- y rheiny sydd yn uniongyrchol gysylltiedig
- y rheiny sydd wedi'u heffeithio gan, neu â diddordeb yn, y safle
Mae canllawiau cenedlaethol a'r diwydiant ar gyfer arolygon yn cynnwys:
**Arolwg Cynefin Cyfnod Un Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol (NVC); arolygon Adar Bridio ac Adar Gwlypdir Ymddiriedolaeth Adareg Prydain; Canllawiau Arolygu Ystlumod; Cynllun Monitro Pili Palod y DU; Coridor Afonydd Asiantaeth yr Amgylchedd neu arolygon rhynglanw y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.
Ffynonellau data:
- sylfaenol
- eilaidd
Gallai arolygon gynnwys: **
- gweithgaredd untro i gasglu data at ddiben wedi'i ragnodi e.e. arolwg llinell sylfaen
- gwyliadwriaeth: ailadrodd arolwg gan ddatblygu darlun sydd yn gallu canfod newid ond nad yw'n ysgogi gweithredu
- monitro: ailadrodd arsylwadau gan ddatblygu darlun sydd yn gallu canfod newid ac ysgogi gweithredu
Gallai technegau gynnwys:
- mapio/lluniau o'r awyr
defnydd o gamerâu, dronau, GPS, olrhain radar, telemetreg clywedol a thechnoleg arall
cyfrif ac amcangyfrif
defnydd o wyddor dinasyddion
samplu
tagio
maglu
Mathau o ddata:
- ansoddol
- meintiol