Creu adroddiad ymchwil
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys creu adroddiad ymchwil. Mae hon yn ddogfen ffurfiol sydd yn nodi canfyddiadau, casgliadau ac argymhellion o ddarn o ymchwil. Gellir ei greu gan yr ymchwilydd o ddata y mae ef neu hi wedi'i gasglu neu gall fod yn seiliedig ar ymchwil a wnaed gan eraill.
Disgwylir y bydd y ddogfen derfynol yn cynnwys llyfryddiaeth a chyfeiriadau, yn unol â'r confensiynau derbyniol, sy'n berthnasol i raddfa'r ymchwil a'r gynulleidfa. Gall y ddogfen amrywio o adroddiad ymchwil mewnol i ddogfen ffurfiol i'w chyhoeddi.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am greu adroddiadau ymchwil.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- creu adroddiad ymchwil sydd yn cynnwys canfyddiadau ar fformat sydd yn addas at ei ddiben ac yn unol â'r gofynion cyfreithiol, moesegol a sefydliadol perthnasol â'r gofynion y cwsmer
- cadarnhau bod eich adroddiad yn cynnwys y data ategol gofynnol yn unol â'r gofynion y cwsmer
- cyflwyno canfyddiadau ar fformat, mewn iaith ac arddull sydd yn addas ar gyfer y gynulleidfa darged
- mynd i'r afael â materion hawlfraint a hawliau eiddo deallusol
cynnwys yr holl gyfeiriadau llyfryddol perthnasol yn unol â'r confensiynau presennol
cydnabod cydweithredu, cyfranwyr a ffynonellau cyllid wrth greu adroddiad ymchwil
- darparu'r adroddiad o fewn y graddfeydd amser gofynnol
- cadw cyfrinachedd y wybodaeth yn unol â'r gofynion cyfreithol perthnasol â'r gofynion y cwsmer
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y dulliau o gyflwyno canfyddiadau ymchwil a sut i'w cymhwyso i adroddiad ymchwil
- egwyddorion adrodd yn seiliedig ar dystiolaeth
- pwysigrwydd defnyddio data ymchwil eilaidd i gefnogi'r casgliadau a'r argymhellion mewn adroddiad ymchwil
- y gofynion rheoliadol, cyfreithiol a moesegol perthnasol sy'n effeithio ar gyflwyno, cyhoeddi a lledaenu gwybodaeth
- eich cynulleidfa darged a'u gofynion ar gyfer cyflwyno canfyddiadau
- y graddfeydd amser sy'n ofynnol ar gyfer adrodd a'r rhesymau dros hyn
- gofynion a disgwyliadau eich sefydliad neu eich cwsmeriaid yn ymwneud ag arddull, cynnwys a chyflwyniad canfyddiadau ymchwil e.e. arddull tŷ, gofynion cyfnodolion gwyddonol
- y confensiynau presennol ar gyfer darparu llyfryddiaeth a chyfeiriadau gwybodaeth
- pwy sydd angen derbyn copïau o'r adroddiad
- y ffynonellau cyngor arbenigol perthnasol a sut i gael mynediad at y rhain a'u defnyddio i gefnogi cynnwys adroddiad ymchwil
- hawliau eiddo deallusol a materion hawlfraint
- y ddeddfwriaeth diogelu data presennol a phwysigrwydd cyfrinachedd a sensitifrwydd gwybodaeth wrth greu adroddiadau ymchwil