Cynllunio a goruchwylio arolygon maes
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio a goruchwylio arolygon maes. Gallai hefyd fod yn berthnasol i gael a goruchwylio gwyliadwriaeth a monitro a gallai fod yn rhan o asesiad ehangach.
Gall arolygon maes fod o'r pynciau canlynol: nodweddion tirwedd a morol; fflora a ffawna, yn cynnwys asesu poblogaeth rhywogaethau; math a chyflwr cynefin ac effaith bodau dynol ar yr amgylchedd. Bydd y rhan fwyaf o arolygon yn cynnwys ffynonellau data sylfaenol ac eilaidd.
Mae'r safon yn cynnwys cadarnhau diben, cwmpas ac amcanion yr arolwg maes, gan bennu methodolegau arolygu a systemau ar gyfer casglu data, dyrannu gwaith i arolygwyr a goruchwylio casglu, holi a dadansoddi data.
Mae'n rhaid i chi gael caniatâd, cydsyniadau a thrwyddedau cyn cynnal arolygon maes.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros gynllunio a goruchwylio arolygon maes.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau diben, cwmpas ac amcanion yr arolwg, gwyliadwriaeth neu fonitro a'r graddfeydd amser ar gyfer cwblhau
- cadarnhau maes astudiaeth y safle i gael ei harolygu
- nodi unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau perthnasol sydd ar waith ar y safle
- cadarnhau bod y caniatâd, cydsyniadau neu drwyddedau penodol angenrheidiol ar waith ar gyfer mynediad i'r safle a'r gwaith casglu data maes ar gyfer rhywogaethau
- nodi ffynonellau gwybodaeth posibl a data presennol sy'n berthnasol i'r arolwg maes i gael ei gynnal
- cyfathrebu gyda phartïon â diddordeb yn ymwneud â'r arolwg maes lle bo angen
- nodi methodolegau arolygu sydd yn galluogi cael y data gofynnol gan niweidio neu amharu cyn lleied â phosibl ar y safle
- dewis technegau arolygu sydd yn gyfreithiol ac yn ddiogel yn unol ag amcanion yr arolwg
- cynllunio a nodi'r gofynion o ran adnoddau yn cynnwys arolygwyr, cyfarpar a deunyddiau
- cadarnhau bod asesiad risg yn cael ei gynnal a bod gweithdrefnau yn eu lle i ddiogelu iechyd a diogelwch y rheiny sydd yn cynnal yr arolwg a defnyddwyr eraill y safle
- cadarnhau bod mesurau yn eu lle i ddiogelu bioddiogelwch y safle
cadarnhau bod mesurau wedi'u sefydlu i sicrhau nad yw'r gwaith arolygu yn cael effaith niweidiol ar gyflwr y safle a bod y safle'n cael ei adfer i'r cyflwr gofynnol, sydd yn cyd-fynd â'r ardal gyfagos
nodi fformatiau a systemau ar gyfer cipio a storio data sydd yn cydymffurfio â safonau data perthnasol
- cynllunio y dulliau dadansoddi data sydd yn caniatáu dod i gasgliadau dilys a dibynadwy
- nodi'r fformat ar gyfer cyflwyno canlyniadau a chanfyddiadau
- datblygu cynllun a manylebau ar gyfer yr arolwg sydd yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol i alluogi'r arolwg i gael ei gynnal, gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael ac unrhyw gyfyngiadau amser
- dyrannu gwaith i'r arolygwyr a darparu'r holl fanylion sydd yn angenrheidiol i'w galluogi i gwblhau eu gwaith
goruchwylio'r gwaith o gasglu a dadansoddi data i sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn gywir
gweithredu os oes gwyro oddi wrth y cynllun
- cadarnhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, cwmpas ac amcanion yr arolwg, gwyliadwriaeth neu'r monitro a'r cyfyngiadau amser
- y defnydd o ffynonellau data eilaidd wrth gynllunio'r arolwg maes a'r methodolegau
- pwysigrwydd casglu data sylfaenol i hygrededd yr arolwg
- y ffactorau i'w hystyried wrth gynllunio arolygon maes
- goblygiadau unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau perthnasol i'r safle sydd ar waith
- yr amgylchiadau lle mae angen caniatâd, cydsyniad neu drwyddedau penodol ar gyfer cael mynediad i'r safle neu ar gyfer gwaith casglu data maes rhywogaethau a sut gellir cael y rhain
- pwysigrwydd cyfathrebu gyda phartïon â diddordeb a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- yr ystod o dechnegau arolygu sydd ar gael, eu manteision a'u hanfanteision ac egwyddorion eu defnydd
- y mathau o gyfarpar arolygu maes sydd ar gael, yn cynnwys adegau pan gellir defnyddio technoleg
- pwysigrwydd sicrhau bod gan yr arolygwyr y lefelau cymhwysedd gofynnol i gynnal yr arolwg
- eich cyfrifoldebau ar gyfer diogelwch safle yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- pwysigrwydd bioddiogelwch a'r mesurau bioddiogelwch gofynnol ar gyfer y safle
- yr effaith bosibl y gallai gweithgareddau arolygu ei gael ar y safle a sut i leihau hyn
- sut i gynyddu'r defnydd o adnoddau wrth gynllunio a goruchwylio arolygon maes o ystyried cymhlethrwydd y dasg mewn llaw, yr adnoddau sydd ar gael, yr adeg o'r flwyddyn ac unrhyw ffactorau perthnasol eraill
- sut i ddewis fformatiau a systemau perthnasol ar gyfer cipio gwybodaeth
- sut i sicrhau bod data yn ddilys ac yn ddibynadwy a ffynonellau posibl gwallau a bias
- sut i greu cynllun a manylebau sydd yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol i alluogi'r arolwg i gael ei gynnal
- y dulliau effeithiol o baratoi a briffio'r rheiny fydd yn gysylltiedig â chasglu a dadansoddi data
pwysigrwydd goruchwylio'r arolwg er mwyn rheoli ansawdd i gadarnhau safon uchel a chysondeb/safoni rhwng arolygwyr
y camau posibl i'w cymryd os oes problemau wrth gasglu data
y dulliau o gyflwyno'r canlyniadau a'r canfyddiadau sydd yn bodloni â'r gofynion y gynulleidfa a'u defnydd o'r wybodaeth
- y ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai y dulliau casglu data gynnwys rhai: ysgrifenedig, llafar, clywedol, electronig, gweledol.
Gallai y dulliau dadansoddi data gynnwys: cyfrifiadau mathemategol, defnydd o fetrigau bioamrywiaeth, defnydd o fodelu, defnydd o feddalwedd gymhwyso
Enghreifftiau o arolygon maes:
Mae'r term "arolwg" yn agored i ddehongliad eang oherwydd ystod eang arolygon, yn cynnwys rhai ffisegol, biolegol a diwylliannol, sy'n cael eu gwneud mewn cyd-destunau gwahanol, gan ddefnyddio ystod o dechnegau. Mae'r rhestr ganlynol yn rhoi canllaw i themâu arolygon ac isafswm y cymhlethdod fyddai'n briodol:
- arolygon bioamrywiaeth: presenoldeb neu helaethrwydd neu ddosbarthiad rhywogaeth benodol o blanhigyn neu anifail. Asesu poblogaeth rhywogaeth. Gweithio gyda mynegeion amrywiaeth.
- arolygon yn defnyddio systemau dosbarthu safonol a ddefnyddir mewn cadwraeth: er enghraifft, arolwg cynefin Cyfnod 1 Cyngor Cadwraeth Natur sy'n defnyddio adnabod grwpiau o rywogaethau planhigion i alluogi dosbarthu cynefin daearol, fel mapio a chyfrif rhywogaethau dynodol ar gyfer coetir hynafol.
- arolygon pobl: er enghraifft, cyfrif nifer yr ymwelwyr sy'n defnyddio hawl tramwy neu lwybrau mynediad wedi'u hyrwyddo, traeth; cynnal cyfweliadau ymwelwyr neu werthuso cefnogaeth leol tuag at brosiect.
- arolygon o effaith ffermio/pysgota/gweithgareddau twristiaeth: fel mynegai pori ar rostir, niwed a achosir i dwyni arfordirol gan ymwelwyr, effeithiolrwydd "maglau beiciau modur" ar lwybr marchogaeth neu ddinistrio gwelyau morwellt wrth angori cychod.
- arolygon cynefin: sef amgylchedd ffisegol unrhyw gymuned, yn cynnwys ffactorau fel llystyfiant, daeareg, geomorffoleg, priddoedd, gwaddodion, topograffeg, tymheredd, gwynt, glaw, llif glaw, ansawdd dŵr, llanw a thonnau.
- arolygon halogi'r amgylchedd naturiol o ganlyniad i lygredd: gallai archwiliadau edrych ar raddau a dwysedd y newid cemegol i'r cynefin a'r effeithiau biolegol cysylltiedig.
- arolygon o statws yr ymdrech gadwriaethol: gallai enghreifftiau gynnwys mapio rhwydweithiau mynediad, cyflwr rhwydwaith llwybr troed a strwythurau ategol (arwyddion, rheiliau llaw, pwyntiau mynediad), nodweddion archeolegol neu lefel yr erydiad i lannau afonydd, twyni tywod a blaen traethau.
- arolygon o effeithiau newid hinsawdd: gallai gynnwys effeithiau ar fioamrywiaeth, amaethyddiaeth, y tywydd, lefelau dŵr, cynnydd tuag at dargedau newid hinsawdd.
Partïon â diddordeb:
- y rheiny sydd yn uniongyrchol gysylltiedig
- y rheiny sydd wedi'u heffeithio gan, neu â diddordeb yn, y safle
Mae canllawiau cenedlaethol a'r diwydiant ar gyfer arolygon yn cynnwys:
**Arolwg Cynefin Cyfnod Un Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol (NVC); arolygon Adar Bridio ac Adar Gwlypdir Ymddiriedolaeth Adareg Prydain; Canllawiau Arolygu Ystlumod; Cynllun Monitro Pili Palod y DU; Coridor Afonydd Asiantaeth yr Amgylchedd neu arolygon rhynglanw y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.
Adnoddau:
- arolygwyr
- cyfarpar
- deunyddiau
Ffynonellau data:
- sylfaenol
- eilaidd
Gallai arolygon gynnwys: **
- gweithgaredd untro i gasglu data at ddiben wedi'i ragnodi e.e. arolwg llinell sylfaen
- gwyliadwriaeth: ailadrodd arolwg gan ddatblygu darlun sydd yn gallu canfod newid ond nad yw'n ysgogi gweithredu
- monitro: ailadrodd arsylwadau gan ddatblygu darlun sydd yn gallu canfod newid ac ysgogi gweithredu
Gallai technegau gynnwys:
- mapio/lluniau o'r awyr
- defnydd o gamerâu, dronau, GPS, olrhain radar, telemetreg clywedol a thechnoleg arall
- cyfrif ac amcangyfrif
- defnydd o wyddor dinasyddion
- samplau
- tagio
- maglu
Mathau o ddata:
ansoddol
meintiol