Defnyddio sgiliau adnabod rhywogaethau

URN: LANEnC33
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys defnyddio sgiliau adnabod rhywogaethau. Disgrifir adnabod rhywogaethau gan Gymdeithas Linnaean fel, "gweithio allan beth yw organeb ".

Mae'r safon hon yn ymwneud â'r egwyddorion a'r gweithdrefnau sylfaenol sydd yn gysylltiedig ag adnabod rhywogaethau (naill ai ffawna neu fflora) yn gywir ac yn fanwl ar draws pob amgylchedd: daearol, dŵr croyw, arfordirol a morol. Gellir ei defnyddio ar gyfer rhywogaethau cynhenid a rhai nad ydynt yn gynhenid (h.y. rhywogaethau estron).

Mae nodweddion pob rhywogaeth wrth roi'r offer i gadwriaethwyr eu hadnabod yn seiliedig ar eu dosbarthiad a'u hamgylchedd. Mae ystod o dechnegau ac offer sy'n ofynnol ar gyfer adnabod rhywogaethau yn gywir. Mae'r offer yn cynnwys defnyddio microsgopau, canllawiau maes, cyfarpar technolegol (e.e. sonar), allweddi (e.e. dwyrannol, ochrol), recordio sain (e.e. adar, galwadau morfilod) ac arwyddion maes.

Mae sgiliau adnabod rhywogaethau yn ffurfio sylfaen ymchwiliad gwyddonol a chadwraeth a rheolaeth bioamrywiaeth, sydd o gymorth, er enghraifft, i lywio datblygiad allweddol a phenderfyniadau polisi.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer ecolegwyr a'r rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth amgylcheddol. Nid oes disgwyl i ddefnyddwyr y safon hon fod yn arbenigwyr ar bob rhywogaeth ond maent yn fwy tebygol o arbenigo mewn un grŵp cynefin neu fwy.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. egluro diben a chwmpas y gweithgaredd adnabod rhywogaethau
  2. egluro unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau perthnasol i'r safle neu'r rhywogaethau sydd wedi'u sefydlu
  3. cadarnhau bod gennych y caniatâd, cydsyniadau neu'r trwyddedau penodol ar gyfer mynediad i'r safle ac ar gyfer y gwaith casglu data maes ar rywogaethau
  4. dewis a defnyddio cyfarpar ac adnoddau ar gyfer adnabod rhywogaethau yn ddiogel ac yn gywir, a chydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau neu rwystrau â'r ddeddfwriaethol a nodir yn yr ardal waith

  5. cadarnhau eich bod yn ymwybodol o'r ffynonellau gwybodaeth perthnasol i gynorthwyo'r gwaith o adnabod rhywogaethau, a bod gennych fynediad iddynt

  6. defnyddio lleoliad y safle (e.e. ei leoliad daearyddol, uchder), adeg o'r flwyddyn, unrhyw ddylanwadau presennol a hanesyddol, naturiol ac artiffisial ar y safle a'r ddaear a'r mathau o gynefin i helpu i adnabod y rhywogaethau sy'n debygol o gael eu canfod
  7. nodi rhywogaethau dangosol a allai awgrymu presenoldeb/absenoldeb rhywogaethau cysylltiedig eraill
  8. defnyddio sgiliau adnabod i adnabod rhywogaethau
  9. cofnodi'r manylion perthnasol i helpu i gadarnhau rhywogaethau, casglu sbesimenau neu samplau pan fo angen
  10. ymdrin ag unrhyw rywogaethau yn ddiogel yn y ffordd ofynnol ac yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a'r codau ymarfer
  11. cynnal bioddiogelwch trwy gydol eich gwaith
  12. cymhwyso'r confensiynau ar gyfer enwi rhywogaethau yn gywir
  13. nodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddibynadwyedd a chywirdeb adnabod rhywogaethau yn gywir

  14. cydnabod cyfyngiadau eich arbenigedd a chael cyngor neu ddilysiad lle bo angen

  15. cymryd y camau gofynnol pan fydd rhywogaethau wedi'u diogelu neu ymledol, nad ydynt yn gynhenid, yn cael eu hadnabod
  16. dilyn protocolau, codau ymarfer â'r ddeddfwriaeth berthnasol wrth adnabod rhywogaethau
  17. gwneud gweithgareddau mewn ffordd sy'n amharu cyn lleied â phosibl ar y cynefin a'r amgylchedd cyfagos
  18. gwneud eich gwaith i gyd yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. diben a chwmpas y gweithgaredd adnabod rhywogaethau
  2. y cyfarpar a'r adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer adnabod rhywogaethau
  3. y ffynonellau gwybodaeth perthnasol y gellir eu defnyddio i gynorthwyo adnabod a sut i ddefnyddio'r rhain
  4. goblygiadau cyfyngiadau neu ddynodiadau safle perthnasol sydd wedi'u sefydlu
  5. pwysigrwydd cael y caniatâd, cydsyniadau neu drwyddedau perthnasol ar gyfer mynediad i'r safle a chasglu data rhywogaethau
  6. sut gallai lleoliad y safle (e.e. ei leoliad daearyddol, uchder), yr amser o'r flwyddyn, y dylanwadau presennol a hanesyddol, naturiol ac artiffisial ar y safle a'r maethau o ddaear a chynefin, helpu i adnabod y rhywogaethau fydd yn cael eu canfod
  7. y rhywogaethau sy'n debygol o gael eu canfod yn y mathau gwahanol o gynefinoedd, eu synau, olion, llwybrau a'u harwyddion
  8. sut i ddefnyddio sgiliau adnabod rhywogaethau i adnabod rhywogaethau yn ystod cyfnodau gwahanol twf ac ar adegau gwahanol o'r flwyddyn
  9. y peryglon sydd yn gysylltiedig ag ymdrin â rhywogaethau a'r arferion gwaith diogel, gofynion cyfreithiol perthnasol a'r codau ymarfer
  10. pwysigrwydd cynnal bioddiogelwch wrth wneud eich gwaith a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  11. nodweddion allweddol y prif rywogaethau cynrychioliadol o fewn grwpiau dosbarthu neu ffyla a'r confensiynau cysylltiedig ar gyfer dull enwi rhywogaethau
  12. sut i ddefnyddio allweddi a thechnegau perthnasol i adnabod rhywogaethau
  13. sut i gofnodi manylion perthnasol i gadarnhau adnabod rhywogaethau
  14. terfynau eich arbenigedd eich hun ac o ble i gael cymorth
  15. pwysigrwydd dilysu adnabod rhywogaethau
  16. y camau i'w cymryd pan fydd rhywogaethau wedi'u diogelu neu ymledol, nad ydynt yn gynhenid, yn cael eu hadnabod, y gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol ar gyfer hyn a chanlyniadau posibl peidio gweithredu
  17. effaith bosibl eich gweithgareddau ar y cynefin a'r amgylchedd cyfagos a sut i leihau hyn
  18. y ddeddfwriaeth, protocolau, codau ymarfer a gofynion perthnasol eich sefydliad wrth adnabod a chofnodi rhywogaethau

  19. sut i gofnodi'r manylion a'r asiantaethau perthnasol i ddarparu cofnodion iddynt

  20. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Rhywogaethau ymledol, nad ydynt yn gynhenid – Mae rhestr o rywogaethau blaenoriaeth uchel ar gael ar wefannau Ysgrifenyddiaeth Genedlaethol Rhywogaethau Nad Ydynt yn Gynhenid PF (NNSS) a Rhywogaethau Ymledol Iwerddon ynghyd â chyngor ar y camau i'w cymryd a system ar gyfer adrodd am ganfyddiadau.

Monitro: arsylwadau wedi'u hailadrodd sy'n datblygu darlun sydd yn gallu newid neu ysgogi gweithredu

Camau posibl i'w cymryd pan fydd rhywogaethau wedi'u diogelu neu ymledol nad ydynt yn gynhenid yn cael eu hadnabod:

  • adrodd
  • gwyliadwriaeth
  • monitro
  • rheoli

Mae rhywogaethau sy'n cael eu canfod mewn ecosystemau daearol, dŵr croyw, arfordirol a morol yn cynnwys:

  • algâu

  • ffwng

  • planhigion, yn amrywio o fwsogl a llysiau'r afu "gradd is" i laswellt a choed
  • anifeiliaid di-asgwrn-cefn

  • ymlusgiaid a amffibiaid

  • pysgod (morol, dŵr croyw a molysgiaid)
  • adar
  • anifeiliaid ag asgwrn cefn, yn cynnwys mamaliaid
  • rhywogaethau wedi'u diogelu

  • rhywogaethau ymledol nad ydynt yn gynhenid

  • chwyn gwenwynig

Arolwg: gweithgaredd untro i gasglu data at ddiben wedi'i ragnodi e.e. arolwg llinell sylfaen

Gwyliadwriaeth: arolwg sy'n cael ei ailadrodd sy'n datblygu darlun sydd yn gallu canfod newid ond nad yw'n ysgogi gweithredu


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEnC33

Galwedigaethau Perthnasol

Ecolegwyr

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

rhywogaethau; adnabod; dosbarthiad; dull enwi; nad yw’n gynhenid; ymledol