Goruchwylio’r gwaith o gynhyrchu cyfryngau dehongliadol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â goruchwylio'r gwaith o gynhyrchu cyfryngau dehongliadol fel deunydd wedi'i argraffu (e.e. taflenni, posteri), arddangosiadau, byrddau gwybodaeth, arwyddion, trêls, dehongliadau sain neu sain-weledol.
Mae'n rhaid eich bod yn gallu paratoi briffiau ar gyfer cynhyrchu cyfyngau dehongliadol, monitro'r gwaith o gynhyrchu a gwerthuso effeithiolrwydd mathau gwahanol o gyfryngau dehongliadol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn rhoi cyfrif am ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o gynhyrchu cyfryngau dehongliadol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r angen am gyfryngau dehongliadol a sefydlu amcanion
- dylunio cyfryngau dehongliadol sy'n berthnasol ar gyfer y gynulleidfa a fwriadwyd, y lleoliad a'r amcanion dehongliadol
- paratoi briffiau ar gyfer cynhyrchu cyfryngau dehongliadol sy'n bodloni'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau eich sefydliad
- ceisio unrhyw wybodaeth ychwanegol a chyngor gan ffynonellau perthnasol
- nodi arbenigedd berthnasol i greu'r cyfryngau dehongliadol
- cytuno ar y gyllideb, yr adnoddau a'r raddfa amser sy'n ofynnol gyda'r rheiny sydd yn cynhyrchu'r cyfryngau dehongliadol
- cytuno ar waith dylunio arbenigol pellach i'w wneud, os oes angen
- cyflwyno briffiau i'r rheiny sy'n cynhyrchu'r cyfryngau dehongliadol ar y fformat a lefel y manylder sy'n ofynnol
- nodi materion hawlfraint a diogeledd a chadarnhau bod y deunyddiau wedi'u diogelu
- goruchwylio a monitro cynnydd cynhyrchu yn erbyn y gyllideb, dyraniadau adnoddau a graddfeydd amser a gytunwyd
- gwirio a chadarnhau bod y cyfryngau dehongliadol a gynhyrchwyd yn cyd-fynd â'r briff dylunio
- cytuno ar unrhyw newidiadau arfaethedig i'r cynllun cynhyrchu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig
- sicrhau cywirdeb ac ansawdd y cyfryngau dehongliadol a gynhyrchwyd
- gwirio a chadarnhau bod cyfryngau dehongliadol ar y safle wedi'u lleoli yn unol â'r briff gwreiddiol
- gwirio a chadarnhau bod deunyddiau wedi'u hargraffu yn cael eu dosbarthu yn unol â'r briff gwreiddiol
- cymryd y camau gofynnol os oes unrhyw broblemau yn cynhyrchu cyfryngau dehongliadol
- sefydlu a chytuno ar feini prawf gwerthuso gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig
- defnyddio y dulliau gwerthuso sy'n berthnasol ar gyfer y math o gyfryngau dehongliadol a'r gynulleidfa ac y bydd yn creu canlyniadau y gellir eu dadansoddi
- cofnodi data gwerthuso mewn ffordd y gellir ei ddadansoddi
- cadw cyfrinachedd a diogeledd data fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau eich sefydliad
- sicrhau bod y canlyniadau'n adlewyrchu'r meini prawf gwerthuso
- dod i gasgliadau o'r gwerthusiad ar effeithiolrwydd y cyfryngau dehongliadol
- cyflwyno'r canlyniadau a'r casgliadau i'r rheiny ddylai eu derbyn
- defnyddio canlyniadau'r gwerthusiad i lywio'r gwaith o gynhyrchu cyfryngau dehongliadol yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi'r angen ar gyfer cyfryngau dehongliadol
sut i sefydlu pwy yw'r gynulleidfa a fwriadwyd, y lleoliad a'r amcanion sy'n ofynnol
y mathau o gyfryngau dehongliadol ac addasrwydd bob un ar gyfer cynulleidfaoedd, lleoliadau ac amcanion gwahanol
- sut i ystyried gofynion y rheiny â nodweddion wedi'u diogelu wrth gynhyrchu cyfryngau dehongliadol
- yr angen i ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau eich sefydliad wrth baratoi briffiau ar gyfer cynhyrchu cyfryngau dehongliadol
- ble i gael ffynonellau gwybodaeth ychwanegol a chyngor
- sut i nodi arbenigedd berthnasol i greu'r cyfryngau dehongliadol
- sut i nodi'r gyllideb, yr adnoddau a'r graddfeydd amser sy'n ofynnol i gynhyrchu'r cyfryngau dehongliadol
- sut i gynhyrchu briff ar y fformat a'r lefel o fanylder sy'n ofynnol
pwysigrwydd sicrhau bod y gofynion hawlfraint a diogeledd yn eu lle
pwysigrwydd goruchwylio a monitro cynnydd yn erbyn y gyllideb, y dyraniadau adnoddau a'r graddfeydd amser
- y ffactorau a allai effeithio ar gynhyrchu a sut dylid ymdrin â'r rhain
terfynau eich awdurdod a ble i gael cymorth
sut dylid ymdrin â'r gofynion ar gyfer newidiadau
- pwysigrwydd sicrhau cywirdeb ac ansawdd y cynnyrch gorffenedig, yn cynnwys lleoli neu ddosbarthu lle y bo'n berthnasol
- pwysigrwydd gwerthuso a sut gellir defnyddio hyn i lywio datblygiad cyfryngau dehongliadol yn y dyfodol
- sut i sefydlu meini prawf gwerthuso dilys
- dulliau gwahanol o werthuso a chostau a pherthnasedd pob math o gyfryngau dehongliadol a'r gynulleidfa
- sut i gynnal gwerthusiadau fydd yn rhoi canlyniadau y gellir eu dadansoddi
- y ffactorau all achosi data i gael ei wyro
- y dulliau o gofnodi data ac addasrwydd pob un
- y ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â diogeledd data
- sut i ddadansoddi data a ffurfio casgliadau, yn ymwneud â'r meini prawf gwerthuso, sydd wedi'u cefnogi gan ganlyniadau'r dadansoddiad
- pwy ddylai dderbyn y canlyniadau a'r casgliadau a sut dylid eu cyflwyno
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfyngau dehongliadol: taflenni, arwyddion, byrddau gwybodaeth, arddangosfeydd, trêls, sain, sain-weledol
Dulliau cyfathrebu: cyfryngau cymdeithasol, holiadur, arolwg, casglu sylwadau, cyfweliad, grŵp ffocws