Cyflawni gweithgareddau dehongliadol amgylcheddol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cyflawni gweithgareddau dehongliadol amgylcheddol yn ymwneud â safleoedd neu destunau amgylcheddol i ystod o gynulleidfaoedd. Mae'n rhaid eich bod yn gallu cyfathrebu a chyflwyno negeseuon yn effeithiol.
Wrth gyflawni gweithgareddau dehongliadol amgylcheddol mae'n rhaid eich bod yn ymwybodol o ddiddordebau a galluoedd y gynulleidfa bob amser, ac addasu eich dull neu arddull cyflwyno i gyd-fynd â hynny.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon ar gyfer Gweithwyr Cadwraeth Amgylcheddol, yn cynnwys mynediad a hamdden, daearol, morol ac unrhyw agwedd arall ar gadwraeth, sy'n gyfrifol am gyflwyno gweithgareddau dehongliadol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio diogelwch y lleoliad yn unol â'r asesiad risg
- sicrhau eich bod yn barod i gyflwyno'r gweithgaredd dehongliadol amgylcheddol yn cynnwys yr adnoddau, cyfarpar a'r lleoliad
- sicrhau bod cyflymder, arddull a strwythur y gweithgareddau yn berthnasol i amgylchiadau, diddordebau a gallu'r gynulleidfa
- cyflwyno'r holl brif negeseuon gan ddefnyddio technegau sy'n cynyddu dealltwriaeth, a gwirio'r ddealltwriaeth gyda'r gynulleidfa
- darparu cyfleoedd i'r gynulleidfa gynyddu'r defnydd o'u synhwyrau
- rhoi esboniadau neu wybodaeth bellach lle mae arwyddion bod hyn yn ofynnol gan y gynulleidfa
- bodloni disgwyliadau amrywiol ymysg y gynulleidfa, cyhyd â bo hynny'n ymarferol
- cwblhau'r gweithgaredd yn unol â'r amserlen
- monitro diogelwch a chysur y gynulleidfa'n barhaus, yn unol â natur y gweithgaredd
- os oes problemau'n codi, rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith a dilyn y gweithdrefnau gofynnol yn achos damweiniau neu argyfyngau
- casglu gwybodaeth gan y ffynonellau perthnasol am yr effeithiolrwydd a'r dehongliad a'i werthuso yn erbyn amcanion a osodwyd yn flaenorol
- adrodd am unrhyw ganlyniadau neu argymhellion sydd yn deillio o'r gwerthusiad wrth y person perthnasol er mwyn cynorthwyo gwneud penderfyniadau a chynllunio yn y dyfodol
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg, yn cynnwys diogelu wrth weithio gyda y grwpiau agored i niwed
- y gofynion ar gyfer gwiriadau DBS wrth weithio gyda y grwpiau agored i niwed, yn cynnwys plant a phobl ifanc
- pwysigrwydd paratoi'n drwyadl ar gyfer cyflwyno gweithgareddau dehongliadol amgylcheddol
natur, gofynion a disgwyliadau'r gynulleidfa
y ffyrdd y gellir amrywio cyflymder, arddull a strwythur gweithgareddau i fodloni anghenion y gynulleidfa
- yr ystod o offer a thechnegau dehongliadol sydd ar gael, a'r egwyddorion ar gyfer eu defnyddio i fodloni anghenion cynulleidfaoedd amrywiol
- y ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol y mae'n rhaid eu dilyn wrth ddefnyddio fflora a ffawna yn ystod gweithgareddau dehongliadol amgylcheddol
- y dulliau o nodi a gwella adwaith a dealltwriaeth y gynulleidfa
- sut i sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cwblhau o fewn yr amser a drefnwyd
- y dulliau o fonitro cynulleidfa yn ddiogel, a ffyrdd y gallai monitro amrywio yn unol â natur y digwyddiad
- y camau i'w cymryd mewn ymateb i ddamweiniau ac argyfyngau neu gynlluniau wrth gefn eraill y byddwch yn debygol o ddod ar eu traws
- y ffynonellau adborth neu'r gweithgareddau dehongli posibl
- pwysigrwydd gwerthuso i gynllunio a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Galluoedd: synhwyraidd, symudedd, dysgu
Cynulleidfa: **
- oedolion
- plant a phobl ifanc
- teuluoedd
- pobl llai abl ac agored i niwed
- grwpiau diddordeb cyffredinol
- grwpiau diddordeb arbennig
- defnyddwyr hamdden
- y rheiny â gofynion arbennig
- y rheiny nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf
Technegau dehongli: **
- defnydd o gyfarpar sain-weledol
- defnydd o bropiau ac adnoddau
- cyfranogiad a chyfraniad y gynulleidfa
Gweithgareddau dehongliadol:
- sgyrsiau darluniadol
- rhoi arddangosiadau
- teithiau tywys
- dweud straeon
- defnyddio gemau amgylcheddol
- drama/perfformiadau
Synhwyrau: golwg, arogl, clyw, blas, cyffyrddiad