Ymchwilio a pharatoi gweithgareddau dehongliadol amgylcheddol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys ymchwilio a pharatoi gweithgareddau dehongliadol amgylcheddol yn ymwneud â safleoedd neu destunau amgylcheddol. Mae ymchwil a chynllunio cadarn yn hanfodol er mwyn i'r dehongli fodloni anghenion amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
Mae'n rhaid eich bod yn gallu adnabod ffocws y dehongliad a datblygiad themâu a negeseuon.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon ar gyfer Gweithwyr Cadwraeth Amgylcheddol, yn cynnwys mynediad a hamdden, daearol, morol ac unrhyw agwedd arall ar gadwraeth, sydd yn gyfrifol am gyflawni gweithgareddau dehongliadol amgylcheddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r gynulleidfa a'r lleoliad a fwriadwyd ar gyfer y gweithgareddau dehongliadol amgylcheddol
- sefydlu natur, gofynion a disgwyliadau'r gynulleidfa a fwriadwyd
- ffurfio amcanion ymchwil sydd yn cysylltu natur a gofynion y gynulleidfa, y lleoliad cyflwyno a ffocws y dehongliad
- nodi a defnyddio ffynonellau gwybodaeth yn effeithiol wrth ymchwilio i weithgareddau dehongliadol amgylcheddol
- asesu'r holl wybodaeth a gafwyd am gywirdeb a pherthnasedd i'r gynulleidfa a fwriadwyd
- cydnabod ffynonellau gwybodaeth wrth wneud ymchwil
- ystyried y lleoliad, y gynulleidfa darged a ffocws y dehongli wrth baratoi gweithgareddau dehongliadol amgylcheddol
- cynnal asesiad risg o'r ardaloedd sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau, ac ystyried hyn wrth baratoi
- caniatáu ar gyfer defnyddio ystod o ddulliau dehongli
- sicrhau bod arddull a strwythur y gweithgareddau a gynlluniwyd yn berthnasol i amgylchiadau, diddordeb a gallu'r gynulleidfa
- ystyried cynlluniau wrth gefn wrth baratoi
- ystyried effaith amgylcheddol a chymdeithasol y gweithgareddau dehongliadol amgylcheddol arfaethedig
- trafod a chytuno ar drefniadau mynediad i'r safle cyn unrhyw ymweliadau a gynlluniwyd
- nodi'r adnoddau gofynnol a chadarnhau eu hargaeledd
- cadarnhau bod eich gweithgareddau dehongliadol dethol yn cyd-fynd ag amcanion y dehongli, yn addas ar gyfer y safle a'r digwyddiad ac o fewn y gyllideb
- hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r gweithgaredd dehongliadol amgylcheddol ar gyfer y gynulleidfa darged
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i sefydlu natur, gofynion a disgwyliadau'r gynulleidfa a fwriadwyd
- y ffyrdd y gallai anghenion cynulleidfaoedd gwahanol amrywio, ac effaith hyn ar ymchwilio i weithgareddau dehongliadol amgylcheddol
- pam y mae'n bwysig ffurfio amcanion ymchwil sydd yn cysylltu natur a gofynion y gynulleidfa, y lleoliad cyflwyno, a ffocws y dehongli
- y ffynonellau gwybodaeth perthnasol, a sut i gael mynediad at y rhain a'u defnyddio'n effeithiol
- sut i wirio gwybodaeth am gywirdeb a pherthnasedd, a'r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
- y ffyrdd y gallwch gydnabod y ffynonellau gwybodaeth
- amcanion a blaenoriaethau dehongliadol amgylcheddol eich sefydliad
- pwysigrwydd paratoi'n ofalus ac yn drylwyr
- sut i baratoi dehongliadau amgylcheddol a dewis gweithgareddau sydd yn mynd i'r afael ag anghenion y gynulleidfa, y lleoliad cyflwyno, a ffocws y dehongli
- sut i gynnal asesiad risg o'r ardaloedd a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau ac addasu eich paratoadau yn unol â hynny
- yr ystod o ddulliau dehongliadol, adnoddau a'r ymagweddau sydd ar gael, a'u perthnasedd i'r amgylchiadau, diddordeb a gallu'r gynulleidfa
- y camau i'w cymryd os bydd unrhyw anawsterau neu gynlluniau wrth gefn
- sut i ystyried yr amgylchedd posibl ac effaith gymdeithasol y dehongliadau amgylcheddol a'r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
- sut i drafod a chytuno ar drefniadau mynediad i'r safle ar gyfer unrhyw ymweliadau a gynlluniwyd a chanlyniadau methu gwneud hyn
- pwysigrwydd cadarnhau argaeledd adnoddau a chanlyniadau methu gwneud hyn
- yr ystod o offer sydd ar gael i hyrwyddo gweithgaredd dehongliadol amgylcheddol, egwyddorion eu defnydd a sut i gael mynediad iddynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cynulleidfaoedd: **
- oedolion
- plant a phobl ifanc
- teuluoedd
- pobl llai abl ac agored i niwed
- grwpiau diddordeb cyffredinol
- grwpiau diddordeb arbennig
- defnyddwyr hamdden
- y rheiny â gofynion arbennig
- y rheiny nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf
Technegau dehongli: **
- defnydd o gyfarpar sain-weledol
- defnydd o bropiau ac adnoddau
- cyfranogiad a chyfraniad cynulleidfa
Gweithgareddau dehongliadol:
sgyrsiau darluniadol
darparu arddangosiadau
- teithiau tywys
- dweus straeon
- defnyddio gemau amgylcheddol
- drama/perfformiadau