Diogelu’r amgylchedd trwy orfodi cyfreithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys diogelu'r amgylchedd trwy orfodi cyfreithiol. Mae'n ymdrin â'r angen i orfodi cydymffurfio â rheoliadau perthnasol a/neu â'r dddeddfwriaeth (yn cynnwys is-ddeddfau) i ddiogelu'r amgylchedd.
Dylai gorfodi fod yn angenrheidiol dim ond os yw dulliau eraill o ddatrys problemau ac anghydfodau e.e. trafod, rhybuddion ac ati, wedi methu. Mae'n cynnwys y gweithgareddau sydd yn gysylltiedig â nodi a chadarnhau'r angen am orfodi ac ysgogi'r gweithdrefnau gorfodi eu hunain.
Mae'r safon hon yn debygol o fod yn berthnasol i Swyddogion Hawliau Tramwy Cyhoeddus, Rhodwyr mewn sefyllfaoedd gwledig, arfordirol a threfol ac eraill sydd angen gorfodi â'r ddeddfwriaeth sydd yn gysylltiedig â'u hardal waith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod ac archwilio achosion o honiadau o beidio â chydymffurfio â rheoliadau neu ddeddfwriaeth i ddiogelu'r amgylchedd
- amseru eich ymchwiliadau yn unol â graddfa'r perygl neu'r anghyfleustra i ddefnyddwyr yr amgylchedd
casglu a chofnodi tystiolaeth o honiadau o beidio â chydymffurfio gan y ffynonellau perthnasol a'u cadarnhau lle y bo'n bosibl
nodi'r rheiny sy'n gyfrifol am dorri rheoliadau neu ddeddfwriaeth
- gwerthuso dichonoldeb atebion ar wahân i orfodi cyfreithiol i ddiogelu'r amgylchedd, a rhoi gweithredu amgen ar waith lle y bo'n bosibl
- cael cyngor ar y broses orfodi a'i goblygiadau gan gynghorwyr arbenigol perthnasol, lle bo angen
- sefydlu'r angen am orfodi cyfreithiol i ddiogelu'r amgylchedd lle mae gweithredoedd eraill wedi methu neu'n amhriodol
- casglu tystiolaeth gan dystion, yn unol â'r gofynion cyfreithiol, creu cofnodion a chytuno arnynt gyda thystion
- paratoi ar gyfer camau cyfreithiol mewn ymgynghoriad â'r cynghorwyr cyfreithiol perthnasol
- ysgogi camau cyfreithiol ar yr adeg berthnasol a'u cefnogi gyda thystiolaeth
- monitro cydymffurfio â chamau cyfreithiol ac adolygu'r angen am weithredu pellach
- nodi a threfnu gweithredu diofyn i ddatrys problemau lle y bo'n berthnasol
- cadw at yr holl ofynion cyfreithiol perthnasol, codau ymarfer, strategaeth a pholisïau eich sefydliad drwy'r amser
- trefnu cymorth perthnasol lle gallai gweithredu gynnwys cyswllt â phobl ymosodol neu sarhaus
- atal gweithgareddau dros dro lle mae eich diogelwch eich hun ac eraill o dan fygythiad, ac adolygu gweithredu pellach
- adolygu'r angen am orfodi cyfreithiol lle mae'r camau adferol gofynnol wedi cael eu cymryd
- cadw cyfrinachedd cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y pwysau i'w roi i ffurfiau gwahanol o wybodaeth neu dystiolaeth am ddiffyg cydymffurfio â rheoliadau neu ddeddfwriaeth i ddiogelu'r amgylchedd
- sut i ddehongli agweddau perthnasol o reoliadau â'r ddeddfwriaeth mewn amgylchiadau gwahanol
y mathau a meintiau perthnasol o dystiolaeth ar gyfer amgylchiadau gwahanol a phwysigrwydd cadarnhau a sefydlu'r ffeithiau
y dulliau o gofnodi achosion o ddiffyg cydymffurfio â rheoliadau neu ddeddfwriaeth i ddiogelu'r amgylchedd, a'r rhesymau pam y dylai cofnodion fod yn gywir ac yn gynhwysfawr
- y dewisiadau amgen i orfodi cyfreithiol i ddiogelu'r amgylchedd a sut i asesu eu dichonolrwydd
- prydi gael cyngor cynghorwyr arbenigol
- yr amgylchiadau lle dylid defnyddio gorfodi cyfreithiol i ddiogelu'r amgylchedd
- y prosesau gorfodi cyfreithiol ar gyfer amgylchiadau gwahanol
sut i gasglu tystiolaeth gan dystion a pharatoi ar gyfer camau cyfreithiol
y gofynion cyfreithiol perthnasol, codau ymarfer, strategaeth a pholisïau eich sefydliad a goblygiadau peidio â chydymffurfio â'r rhain
- sut i fonitro cydymffurfio â chamau cyfreithiol a phryd y gallai fod angen gweithredu pellach
- y weithred ddiofyn a ganiateir ar gyfer amgylchiadau gwahanol, a'r rhesymau dros wneud penderfyniadau o'r fath, lle y bo'n berthnasol
- ble i gael cymorth mewn amgylchiadau yn cynnwys ymosodedd neu sarhad
- yr amgylchiadau pan dylid atal gweithgareddau dros dro
- y gofynion cyfreithiol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau cofnodion, a goblygiadau â'r ddeddfwriaeth bresennol diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithredu diofyn:
- gwneud gwaith arferol
- trefnu i godi tâl ar y rheiny sy'n gyfrifol
- gorfodi cyfreithiol
Mathau o ymchwiliadau*:*
- adolygu gwybodaeth a dderbyniwyd
- ymweld ac arsylwi'r safle
- ymchwiliadau eraill
Mathau o ddiffyg cydymffurfio:
- rhwystrau a thresmasu
- amharu ac achosi niwsans
- mynediad annigonol
- gweithgareddau anghyfreithlon ar safleoedd
- erlid bywyd gwyllt