Ymgynghori a thrafod i ddiogelu neu wella’r defnydd o dir neu safleoedd morol

URN: LANEnC27
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys ymgynghori a thrafod i ddiogelu neu wella'r defnydd o dir neu safleoedd morol.

Gall hyn gynnwys cynnal arfer da presennol wrth wynebu newidiadau arfaethedig. Bydd yr ymgynghori a'r trafod yn cael ei wneud gydag amrywiaeth eang o grwpiau â diddordeb. Mae'r safon yn pwysleisio gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gyflawni atebion a gwelliannau.

Gellir defnyddio'r termau "tir" neu "forol" ar gyfer amgylcheddau daearol, dŵr neu gymysg mewn cyd-destunau trefol a gwledig, yn cynnwys ardaloedd ar y môr i ymyl dyfroedd tiriogaethol.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr cadwraeth a mynediad morol sydd yn gysylltiedig ag ymgynghoriadau a thrafodaethau'n ymwneud â'r defnydd o dir a/neu ardaloedd morol. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys trafodaethau gyda pherchnogion tir ynghylch rheoli cynefin neu hawliau mynediad, pysgotwyr ynghylch defnydd ar y cyd o ardaloedd o'r môr neu gyrff statudol ynghylch newidiadau mewn rheolaethau o ran defnydd o dir a/neu safleoedd morol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi unrhyw faterion yn ymwneud â defnydd presennol neu arfaethedig o dir neu'r môr
  2. nodi ac ymgysylltu â'r prif grwpiau diddordeb ac unigolion sydd yn gysylltiedig â defnydd presennol neu arfaethedig
  3. esbonio cyfleoedd ar gyfer diogelu/gwella'r defnydd o dir neu'r môr i'r prif grwpiau diddordeb ac unigolion, a chael eu safbwyntiau am y cyfleoedd hyn
  4. ymgynghori a thrafod gyda'r prif grwpiau diddordeb a'r unigolion, yn unol â diddordebau'r holl bartïon cysylltiedig, ac o fewn y gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad
  5. nodi a gwerthuso atebion posibl i unrhyw faterion gyda'r defnydd presennol neu arfaethedig o dir neu safleoedd morol
  6. datblygu argymhellion ar gyfer gweithredu i ddiogelu neu wella'r defnydd o dir neu safleoedd morol, yn unol â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, strategaethau, polisïau a chodau ymarfer
  7. cwblhau ymgynghori a thrafod yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad
  8. cofnodi canlyniadau ymgynghori a thrafod a'r argymhellion ar gyfer gweithredu gyda'r prif grwpiau diddordeb ac unigolion
  9. monitro gweithredu ac effeithiolrwydd gweithredoedd y cytunwyd arnynt

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y materion gyda'r defnydd presennol neu arfaethedig o dir neu'r môr a sut i farnu'r angen i weithredu
  2. sut i nodi ac ymgysylltu prif grwpiau diddordeb ac unigolion sydd yn gysylltiedig â'r defnydd presennol neu arfaethedig o'r tir neu'r safle morol
  3. pam y mae ymgynghori a thrafod gyda'r prif grwpiau diddordeb a'r unigolion perthnasol yn bwysig
  4. ystod o dechnegau ar gyfer cynnal a chwblhau ymgynghoriadau a thrafodaethau effeithiol
  5. y ffyrdd y mae diddordebau partïon eraill yn newid wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaen
  6. yr atebion technegol a phosibl eraill i faterion a'r dulliau o werthuso eu heffeithiolrwydd tebygol
  7. y ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau lleol, strategaethau, polisïau a chodau ymarfer a goblygiadau peidio â chydymffurfio â'r rhain
  8. y gweithredoedd gwahanol sydd ar gael i ddiogelu neu wella'r defnydd o dir neu safle morol a'r rhesymau dros argymell gweithred benodol
  9. pwysigrwydd monitro gweithredu ac effeithiolrwydd y weithred y cytunwyd arni a sut dylid gwneud hyn

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai materion gynnwys:

  • bygythiadau i fioamrywiaeth
  • defnydd amhriodol o dir a'r arfordir
  • cynnal y safle yn wael
  • mynediad

Prif grwpiau diddordeb ac unigolion:

  • perchnogion tir
  • rheolwyr tir
  • awdurdodau lleol
  • grwpiau cymunedol a grwpiau eraill â diddordeb
  • y cyhoedd
  • asiantaethau statudol ac asiantaethau eraill
  • arbenigwyr amgylcheddol

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEnC27

Galwedigaethau Perthnasol

Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth, Swyddog Mynediad, Ecolegwyr, Swyddog Polisi Amgylcheddol

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

arfordirol; môr; safle; cynefin; tir; trafod